Hafanu
Beth yw Tân?
Mwg
Rhagofalon Tân
- Drysau Tân
- Cwestiwn 2
- Llwybrau Diogel
- Allanfeydd Tân
- Arwyddion
- Goleuadau Brys
- Man Ymgynnull
- Systemau Ysgeintellau Awtomatig
- Diffoddwyr Tân
Diogelwch Tân yn y Cartref
Galwadau Ffug
Llosgi Bwriadol
Tasgau
Gwefannau
Rhagofalon Tân
Drysau Tân
Mae drws tân yn ddrws mewnol a phan fydd y drws ar gau, byddwch yn ddiogel o dân am o leiaf 30 munud (gyda strip chwyddedig a sêl mwg oer). Bydd y drws yn atal mwg a gwres rhag teithio drwy adeilad drwy gadw’r tân yn ei leoliad gwreiddiol a thrwy hyn, rhoi llwybr diogel i ddianc.
Mae drws domestig sydd ar gau yn gallu dal tân yn ei ôl am hyd at 10 munud.
Mae’n anghyfreithlon ac yn beryglus i ddal drysau tân yn agored gyda phethau megis biniau, offer diffodd tân neu rywbeth arall.
Rhaid CAU drws tân er mwyn iddo fod yn effeithiol!
Cwestiwn 2
Yn fyr, disgrifiwch ac egluro beth yw pwrpas y nodweddion hyn a geir ar ddrysau tân:
- Arwydd gyda dyn gwyrdd yn rhedeg
- Cau ar eu pennau eu hunain
- 3 colfach (hinge)
- Gwydr gwifrog Sioraidd
- Stribyn sy’n chwyddo ar ddrws tân
- Sêl mwg oer
- Setiau o ddrysau gwrth dân
Rhowch eich atebion yn eich portffolio
Mae Llwybrau Diogel yn llwybrau arbennig sy’n darparu dihangfa ddiogel ac sydd wedi’u hamddiffyn gan ddrysau tân o un pen i’r llall. Ar lwybrau diogel, rhaid cael goleuadau brys a gwybodaeth am y ffordd i fynd, a ddangosir gan yr arwydd efo dyn gwyrdd yn rhedeg.
Mae Allanfeydd Tân yn ddrysau allanol ac ni ddylent byth gael eu rhwystro, oherwydd rhaid iddynt fod ar gael fel ffordd o ddianc. Dylai llwybr clir fod ar gael i’r man ymgynnull mewn tân.
Mae Arwyddion yn rhan bwysig o fesurau atal tân adeiladau ac yn darparu gwybodaeth hanfodol i ddefnyddwyr yr adeilad, megis cyfarwyddiadau i’r allanfa dân agosaf. Mae arwyddion gyda gwybodaeth raffigol megis y “dyn yn rhedeg” yn dynodi’r llwybr dianc agosaf.
Mae angen Goleuadau Brys i ofalu bod digon o oleuadau yn cynnau yn awtomatig er mwyn gwagio adeilad yn ddiogel rhag ofn i’r prif gyflenwad pŵer fethu. Llefydd ble mae angen goleuadau brys fel arfer yw llwybrau diogel, grisiau, toiledau a llefydd sydd angen goleuo’r allanfeydd tân, mannau torri gwydr, diffoddwyr tân.
Man Ymgynnull yw lle arbennig tu allan i’r adeilad sy’n darparu diogelwch llwyr mewn argyfwng. Fe ddylai fod o leiaf un a hanner gwaith yn fwy nag uchder yr adeilad i ffwrdd o’r adeilad, i fyny’r gwynt o’r prifwynt. Fe ddylai man ymgynnull roi lle diogel i alw cofrestr i wneud yn siŵr fod pawb yn ddiogel.
Systemau Ysgeintellau Awtomatig
Bwriad systemau ysgeintellau awtomatig yw diffodd tanau bychan, neu reoli tanau sy’n tyfu nes i’r Gwasanaeth Tân ac Achub gyrraedd.
Mae pen pob ysgeintell yn gweithredu pan fydd lefel arbennig o wres yn cael ei chanfod tu mewn i’r adeilad a bydd yn chwistrellu dŵr dros ardal arbennig. Mae pob ysgeintell yn gweithio’n annibynnol, gan gyfyngu’r nifer o ysgeintellau sy’n gweithredu ac osgoi difrod dŵr diangen mewn rhannau o’r adeilad ble nad oes tân. Mae’r system wedi’i chysylltu drwy gyfres o bibelli, sydd wedi ei chysylltu â’r cyflenwad dŵr.
Mae systemau fel hyn wedi dangos eu bod yn effeithiol iawn wrth arbed bywydau ac eiddo rhag tân.
Mae gwahanol fathau o systemau ysgeintellau yn dibynnu ar y risgiau posibl sydd ynghlwm.
MaeDiffoddwyr Tân ar gyfer tanau bychan sydd newydd gynnau. Mae gwahanol fathau o ddiffoddwyr tân, sy’n cael eu defnyddio i daclo gwahanol fathau o dân. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gallu adnabod y defnydd sy’n llosgi er mwyn dewis y diffoddwr tân priodol. Un diffoddwr tân...un tân! Cewch daclo tân dim ond os yw hi’n ddiogel i chi wneud hynny, gan ystyried eich diogelwch chi a diogelwch eraill bob amser. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, caewch y drws ar y tân ac ewch allan o’r adeilad. Gofalwch ganu’r larwm pob tro.