Hafanu
Beth yw Tân?
Mwg
Rhagofalon Tân
- Drysau Tân
- Cwestiwn 2
- Llwybrau Diogel
- Allanfeydd Tân
- Arwyddion
- Goleuadau Brys
- Man Ymgynnull
- Systemau Ysgeintellau Awtomatig
- Diffoddwyr Tân
Diogelwch Tân yn y Cartref
Galwadau Ffug
Llosgi Bwriadol
Tasgau
Gwefannau
Ffonio’r Gwasanaethau Brys
Mae hyn yn gallu bod yn anoddach na feddyliwch ... mae’n debyg y bydd arnoch chi angen help ar frys ac yn poeni’n ofnadwy. Weithiau, pan fyddwn ni mewn panig, nid yw ein meddwl yn gweithio cystal.
- Deialwch 999
- Siaradwch yn araf ac yn glir
- Gofynnwch am y gwasanaeth sydd angen
- Rhowch eich cyfeiriad llawn gan gynnwys y dref a’r cod post
- Eglurwch os oes unrhyw un yn sownd ac ym mha ystafell maen nhw’n sownd
- Eglurwch os oes unrhyw un wedi’i anafu neu’n anabl.
Galwadau Ffug
Mae effeithiau galwadau ffug yn gallu bod yr un mor ddinistriol ac mae’n bwysig deall y gallai canlyniadau galw’r gwasanaethau brys heb fod angen fod yn ofnadwy. Mae galwadau ffug yn costio bywydau... mae’r amser mae’r injan dân yn cymryd i deithio i’r cyfeiriad anghywir i alwad ffug, yn amser a gollir wrth geisio mynd at argyfwng go iawn.
Os gwneir galwadau ffug o ffôn symudol, gellir datgysylltu’r ffôn ac ni ellir ei ddefnyddio wedyn.
Mae galwadau ffug yn anghyfreithlon a gallwch gael cosb o hyd at £5000 neu 6 mis yn y carchar.
Llosgi Bwriadol
Mae tanau bwriadol yn llawer rhy gyffredin yn anffodus ac yn cael effaith enfawr ar ein cymunedau.
Dyma ystadegau gan The Arson Prevention Bureau.
Bob wythnos yn y DU:
Mae 2,213 achos o losgi bwriadol.
Mae llosgi bwriadol yn lladd 2 o bobl.
Mae llosgi bwriadol yn anafu 53 o bobl.
Mae 20 o ysgolion a cholegau yn cael eu difrodi neu’u dinistrio gan losgi bwriadol.
Mae 262 o gartrefi yn cael eu dinistrio neu’u difrodi gan losgi bwriadol.
Mae 360 o fusnesau ac adeiladau cyhoeddus yn cael eu dinistrio neu’u difrodi gan losgi bwriadol.
Mae 1,402 o geir yn cael eu dinistrio neu’u difrodi gan losgi bwriadol.
Mae llosgi bwriadol yn costio £53.8 miliwn i economi Cymru a Lloegr pob wythnos.
Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol iawn y mae’r gyfraith yn ei chosbi’n llym, a charchar yw’r llymaf.
Cwestiwn 4
Ystyriwch sut y gallai llosgi bwriadol effeithio ar eich ysgol chi. Manylwch ar yr effeithiau posibl fyddai’n debygol yn ystod union amser y tân, a’r canlyniadau a’r oblygiadau tymor hir hefyd.
Rhowch eich hatebion yn eich portffolio