Hafanu
Beth yw Tân?
Mwg
Rhagofalon Tân
- Drysau Tân
- Cwestiwn 2
- Llwybrau Diogel
- Allanfeydd Tân
- Arwyddion
- Goleuadau Brys
- Man Ymgynnull
- Systemau Ysgeintellau Awtomatig
- Diffoddwyr Tân
Diogelwch Tân yn y Cartref
Galwadau Ffug
Llosgi Bwriadol
Tasgau
Gwefannau
Tasg 1
Darllenwch drwy’r sefyllfa ganlynol ac ateb y cwestiynau isod.
Rydych chi’n rheolwr ar gaffi rhyngrwyd ar stryd fawr brysur. Mae’n amser cinio ddydd Sadwrn ac mae 4 aelod arall o staff yn gweithio a thua 30 o gwsmeriaid. Mae tân yn cydio yn y gegin pan fo’r ffrïwr saim dwfn yn cael ei adael heb neb yn gofalu amdano.
Cynllun yr adeilad
- Mae gan yr adeilad ddau lawr wedi’u cysylltu gan risiau mewnol.
Y llawr isaf: Y llawr cyntaf:
y caffi cyfleusterau toiled i staff/cwsmeriaid
cegin cwpwrdd glanhau
stordy swyddfa
ystafell staff.
- Dim ond i’r caffi a’r toiledau y caiff y cwsmeriaid fynd.
- Mae allanfeydd tân yn ffrynt a chefn yr adeilad ar y llawr gwaelod, a dim ond un sydd ar y llawr cyntaf sy’n arwain at ddihangfa dân allanol.
1. Gwnewch rybudd gweithredu mewn tân i staff sy’n rhestru beth fyddech chi’n disgwyl iddynt wneud mewn tân.
Meddyliwch am faint, lliw, dyluniad a lleoliad y rhybudd hwn, oherwydd fe allai hyn effeithio ar ba mor effeithiol yw’r rhybudd.
2. Eglurwch beth rydych chi’n credu fyddai effaith y canlynol:
2.1 Y drws tân rhwng y gegin a’r grisiau yn cael ei gadw’n agored gyda diffoddwr tân.
2.2 Staff yn casglu eu bagiau, eu cotiau a’u heiddo personol o ystafell orffwys y staff.
2.3 Drws yr allanfa dân i fyny’r grisiau wedi’i gloi.
2.4 Nifer o gwsmeriaid yn defnyddio cyfleusterau’r rhyngrwyd ac yn anwybyddu’r larwm tân.
2.5 Dim cynllun gweithredu mewn tân a heb wneud ymarfer tân.
Rhowch eich gwaith yn eich portffolio