Hafanu
Beth yw Tân?
Mwg
Rhagofalon Tân
- Drysau Tân
- Cwestiwn 2
- Llwybrau Diogel
- Allanfeydd Tân
- Arwyddion
- Goleuadau Brys
- Man Ymgynnull
- Systemau Ysgeintellau Awtomatig
- Diffoddwyr Tân
Diogelwch Tân yn y Cartref
Galwadau Ffug
Llosgi Bwriadol
Tasgau
Gwefannau
Tasg 2
Ai’r Gwasanaeth Tân ac Achub sy’n diffodd tanau bob amser?
Gellir dod ar draws diffoddwyr tân ac offer diffodd tân mewn gwahanol lefydd mewn ysgolion, swyddfeydd, siopau a ffatrïoedd ac maen nhw’n un ffordd o daclo tân. Ond, os byddai’r offer yn gwneud hyn yn dda yn y lle cyntaf, siawns na fyddai rhaid i ni alw’r Gwasanaeth Tân ac Achub?
1. Enwch y mathau cyffredin o ddiffoddwyr tân ac offer diffodd tân a pham fod angen mathau gwahanol?
Defnyddiwch y fformat hwn i gyflwyno eich ateb:
1.1 Rhestrwch yr holl fathau sydd i’w cael mewn llefydd gwaith a sut maen nhw’n cael eu hadnabod.
1.2 Rhestrwch y mathau (dosbarthiadau) o dân a sut mae’r rhain yn cael eu symboleiddio.
1.3 Nodwch pa ddiffoddwyr tân y gellir eu defnyddio ar gyfer pob math o dân.
1.4 Gan ddefnyddio’r triongl tân, eglurwch beth fydd effaith pob darn o offer ar dân.
2. Gwnewch boster ‘rhestr gwirio diogelwch’ o bethau i’w hystyried cyn taclo tân.
Meddyliwch am faint, lleoliad a pha fath o dân yw o, a’r unigol(ion) allai daclo’r tân.
Hefyd, meddyliwch am faint o gyngor fyddech chi eisiau ei roi ac os fyddai pobl yn ei gofio chwe mis wedyn? Efallai byddai’n ddefnyddiol amlygu gwybodaeth allweddol a fyddai’n sefyll allan i rywun edrych arno mewn argyfwng.Rhowch eich gwaith yn eich portffolio