Hafanu
Beth yw Tân?
Mwg
Rhagofalon Tân
- Drysau Tân
- Cwestiwn 2
- Llwybrau Diogel
- Allanfeydd Tân
- Arwyddion
- Goleuadau Brys
- Man Ymgynnull
- Systemau Ysgeintellau Awtomatig
- Diffoddwyr Tân
Diogelwch Tân yn y Cartref
Galwadau Ffug
Llosgi Bwriadol
Tasgau
Gwefannau
Diogelwch Tân yn y Cartref
Mae mwy na 68,000 o danau yn digwydd yng nghartrefi pobl yn y DU bob blwyddyn gan ladd tua 400 ac anafu 13,800.
Gellid fod wedi osgoi’r rhan fwyaf o’r marwolaethau a’r anafiadau hyn drwy baratoi’n ofalus o flaen llaw a thrwy ddilyn canllawiau eich Gwasanaeth Tân ac Achub.
Oes gennych chi larwm mwg sy’n gweithio?
Mae larwm mwg yn eich rhybuddio chi’n gynnar bod tân. Efallai eich bod chi’n meddwl eu bod yn rhy sensitif, nes bod yn niwsans o ddydd i ddydd, yn canu pan fyddwch chi’n defnyddio’r tostiwr neu’n dechrau coginio. Ond y syniad yw y bydd y sensitifrwydd yma’n canu’r larwm gyda chyn lleied o fwg ag sy’n bosib os byddai tân yn eich cartref. Byddai hyn yn sicrhau, gobeithio, fod gan bawb ddigon o amser i ddianc. Fe ddylai sŵn eich larwm mwg eich rhybuddio chi hyd yn oed pan fyddwch chi’n cysgu.
Gosodwch larymau mwg ar bob lefel neu lawr yn eich cartref, a’u gosod ar y nenfwd yn y cyntedd a thop y grisiau. Cadwch lwch o’r larymau a’u profi unwaith yr wythnos. Meddyliwch am brynu larwm 10 mlynedd, neu newidiwch y batris bob blwyddyn. Pan fydd y larymau mwg yn 10 oed, dylid rhoi larymau mwg 10 mlynedd newydd yn eu lle - gall y Gwasanaeth Tân ac Achub eu gosod yn rhad ac am ddim i chi.
Os cewch chi eich rhybuddio am dân yn eich cartref...
Cynllun Tân yn y Cartref
Mae ymarfer cynllun dianc rhag tân yn weithdrefn bwysig iawn ar gyfer unrhyw adeilad er mwyn i bawb allu dianc os oes tân. Fe ddylai cynllun tân feddwl am y ffordd fwyaf diogel neu gyflym o ddianc allan o bob rhan o’r adeilad, ac unrhyw anawsterau allai fod.
Gwnewch gynllun dianc rhag tân yn eich cartref. Dylai gynnwys:
- Lleoliad allweddi’r ffenestri a’r drysau
- Eich llwybr dianc
- Pwysigrwydd peidio ag agor drws os ydych chi’n credu fod tân tu ôl i’r drws
- Gwybod sut i ffonio’r gwasanaethau brys.
Mae’r rhan fwyaf o farwolaethau tân yn digwydd yn ystod y nos, felly cyn mynd i’r gwely dylech gofio:
- Cau pob drws
- Diffodd a datgysylltu pob plwg trydanol
- Gwneud pob tân a gwresogydd yn ddiogel.
- Gwagio blychau llwch tu allan.
Pan fyddwch chi’n dianc, mae’n bwysig edrych am arwyddion o dân a mwg cyn symud ymlaen drwy ddrws sydd wedi’i gau. Gan ddefnyddio cefn eich llaw, teimlwch y drws yn gyntaf ac yna’r handlen am arwyddion o wres...os yw’r naill neu’r llall yn gynnes, peidiwch ag agor y drws.
Cofiwch, mae’n bwysig cadw’n isel o dan unrhyw haen o fwg.
Nodyn: Efallai bydd hi’n bosib dianc o ffenestr ar y llawr isaf, fodd bynnag, yr unig adeg y dylech feddwl am ddianc trwy ffenestr ar lefel uwch yw os fydd eich bywyd mewn perygl.
Cwestiwn 3
Gan ddefnyddio’r cynllun uchod fel canllaw, paratowch gynllun fyddai’n dangos cynllun o’ch cartref chi a sut fyddech chi’n dianc os byddai tân.
Cyflwynwch eich atebion yn eich portffolio