Hafanu
Beth yw Tân?
Mwg
Rhagofalon Tân
- Drysau Tân
- Cwestiwn 2
- Llwybrau Diogel
- Allanfeydd Tân
- Arwyddion
- Goleuadau Brys
- Man Ymgynnull
- Systemau Ysgeintellau Awtomatig
- Diffoddwyr Tân
Diogelwch Tân yn y Cartref
Galwadau Ffug
Llosgi Bwriadol
Tasgau
Gwefannau
Cyflwyniad
Mae lleihau marwolaethau ac anafiadau tân yng Nghymru yn golygu mwy na darparu gwasanaeth ymateb brys effeithiol.
Nod y gwasanaeth yw gwneud Cymru yn lle diogelach i fyw ynddi, gweithio ynddi ac ymweld â hi; trwy weithio gyda phobl ifanc o wahanol gefndiroedd, mae gan y gwasanaeth gyfle i gyfarfod â dinasyddion y dyfodol o’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Er eich bod chi’n dysgu am atal tanau fel rhan o’ch TGAU mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Ychwanegol, gall eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Dyma un o’r pethau pwysicaf wnewch chi ddysgu erioed efallai. Mae pobl YN marw mewn tanau; nid yw tanau yn gwahaniaethu, maent yn lladd, yn anafu ac yn dinistrio.
Mewn gweithleoedd, gan gynnwys eich ysgol neu goleg, mae rheoliadau tân. Mae’r rheoliadau hyn er mwyn sicrhau fod niferoedd y rhai a gaiff eu hanafu mewn tân yn cael eu cadw mor isel â phosibl
Ar gyfer eich TGAU mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Ychwanegol, mae angen i chi wybod:
- Beth sydd raid ei wneud os clywch chi larwm tân neu larwm mwg;
- Beth sydd raid ei wneud os byddwch chi yn darganfod tân, e.e. yn y cartref neu yn y gwaith;
- Sut mae drysau tân yn gweithio; ble maen nhw’n cael eu rhoi; pam
maen nhw’n cael eu defnyddio a sut maen nhw’n gweithio;
- Sut i adnabod mathau gwahanol o ddiffoddwyr tân:
- - Dwr
- - arbon deuocsid
- - Powdr sych
- - Ewyn
- - Blanced dân
- Ar gyfer beth mae’r diffoddwyr hyn yn cael eu defnyddio – y gwahanol fathau o dân a’r rhesymau pam maen nhw’n cael eu defnyddio;
- Am ddefnyddio a gweithredu systemau ysgeintellau (sprinklers) awtomatig
Llyfryn Atal Tân
Bwriad y llyfryn yma yw gwella eich gwybodaeth drwy gyfres o ffeithiau, cwestiynau a thasgau. Bydd yr wybodaeth yn sylfaen i’ch dysgu tra bydd y cwestiynau a’r tasgau’n ymestyn eich gwybodaeth ac yn profi eich dealltwriaeth a’ch sgiliau cymhwyso.
Mae’r llyfryn yn cynnwys llyfryddiaeth i’ch helpu gyda’ch gwaith ymchwil hefyd.
Cwestiynau a thasgau
I gwblhau’r modiwl yma’n llwyddiannus, mae angen ymdrech ar eich rhan chi. Mae hyn yn golygu darllen trwy’r llyfryn hwn, ateb y cwestiynau sydd yn y llyfryn, a chwblhau’r tasgau a osodir.
Cwestiynau
Wrth i chi ddarllen trwy’r llyfryn, gofynnir i chi ateb nifer o gwestiynau. Rydym ni’n gobeithio y bydd y cwestiynau yma’n gwneud i chi feddwl am atal tân a materion sy’n ymwneud â thân, ac yn rhoi’r cyfle i chi ddeall yr wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i gwblhau’r tasgau.