Cynhyrchion

Fel asiantaeth deithio annibynnol arbenigol, bydd Travel Stop yn delio ag amrywiaeth o drefnwyr teithiau sy’n cynnig gwahanol fathau o wyliau i nifer o gyrchfannau.
Mae Travel Stop yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn gallu cael hyd i’r gwyliau iawn i fodloni union anghenion ei chwsmeriaid, yn hytrach na gwerthu gwyliau pecyn a gynigir gan y drefnydd teithiau mae’r asiantaeth yn gysylltiedig ag ef.
Mae hyn yn golygu bod Travel Stop yn cadw amrywiaeth eang o lyfrynnau i ddangos i gwsmeriaid posibl y dewis helaeth sydd ar gael.
Fel y dangosir isod, mae llyfrynnau’n cael eu gosod allan mewn modd systematig i alluogi cwsmeriaid i gymharu’r cynhyrchion a gynigir gan wahanol drefnwyr teithiau ar gyfer yr un math o wyliau. Mae hynny’n ei gwneud hi’n haws i’r cwsmer ddewis, ac mae hefyd yn helpu’r asiant sy’n gwerthu’r gwyliau gan nad oes raid chwilio a chwilio am lyfrynnau penodol.

Gweithgaredd 1
Nodwch y llyfryn a fyddai fwyaf priodol ar gyfer gofynion pob cwsmer.

Er bod y rhyngrwyd yn darparu llawer iawn o wybodaeth am bob cyrchfan, mae llawer o’r cwsmeriaid sy’n ymweld ag asiantaethau teithio annibynnol fel Travel Stop yn dal i eisiau trafod eu cynlluniau gydag asiant teithio, a fydd yn gallu rhoi syniadau a gwybodaeth.
Mae’r llyfrynnau a ddarperir gan drefnwyr teithiau arbenigol yn rhoi gwybodaeth hynod werthfawr i gwsmeriaid posibl.
Gweithgaredd 2
Ymchwiliwch i wefannau gwahanol drefnwyr teithiau i ddarparu dyfynbrisiau ar gyfer pedwar cwsmer gwahanol.
Priodasau a Misoedd Mêl
Gweithgaredd 3

Mae Travel Stop yn arbenigo mewn trefnu priodasau a misoedd mêl dramor. Mae wedi cyflwyno gwasanaeth arbennig o’r enw 'Honeymiles'. Gan ddefnyddio gwybodaeth a gewch o’r cyswllt isod, eglurwch sut mae Honeymiles yn gweithio:
http://www.travel-stop.co.uk/weddings/honeymiles.htmGweithgaredd 4
Mae Travel Stop hefyd yn darparu cyngor i barau sydd eisiau priodi dramor. Gan ddefnyddio’r cyswllt â llyfryn Priodasau Virgin Holidays, darparwch ddyfynbris ar gyfer pâr sydd eisiau priodi yn y Caribî ac sy’n gallu gwario hyd at £1,000 yr un ar eu gwyliau priodas.
http://www.virginholidays.co.uk/brochures/weddings/Mordeithiau

Mae Travel Stop hefyd yn cynnig amrywiaeth o wyliau mordaith ac mae wedi sefydlu adran arbenigol o’r asiantaeth a elwir yn Suffolk Cruise Centre.
Gweithgaredd 5
Ymchwiliwch i wefan y Suffolk Cruise Centre, dewiswch fordaith sydd wedi’i chynnwys ar y wefan ac awgrymwch brif nodweddion y fordaith a fyddai’n apelio at gwsmeriaid.
http://www.travel-stop.co.uk/scc/cruise.htm