Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Technoleg a Phersonél


Mae Travel Stop yn ymfalchïo yn ei staff profiadol, sydd wedi gweld chwyldro yn y ffordd y caiff cynhyrchion y diwydiant teithio a thwristiaeth eu gwerthu i gwsmeriaid. Un o’r aelodau mwyaf profiadol o’r staff yw Cheryl.

Mae Cheryl wedi bod yn y diwydiant teithio ers mwy na 25 mlynedd, gan dreulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa gyda chadwyn flaenllaw o asiantaethau teithio y stryd fawr. Hefyd treuliodd hi gyfnod yn yr Adran Gysylltiadau Cwsmer yn y Brif Swyddfa cyn dod yn rheolwr cangen. Symudodd i Travel Stop yn 2001 ac mae hi wedi bod gyda’r cwmni byth ers hynny.


Profiad teithio Cheryl:

Mae gan Cheryl brofiad personol o deithio i:
Seland Newydd, Columbia, Seychelles, Malaysia, Hong Kong, Dubai, Kenya, De Affrica, Barbados, St Lucia, Antigua, Grenada, Martinique, Guadaloupe, St Maarten, St Thomas, Virgin Gorda, Canada, UDA (gn gynnwys Efrog Newydd, Naples, Kansas, Nashville, San Francisco a Llyn Tahoe), Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, Awstria, y Swistir, yr Iseldiroedd, Sbaen (gan gynnwys Menorca, Majorca a Lanzarote) Tunisia, Portiwgal, Malta, Groeg (gan gynnwys Thassos a Skiathos), yr Eidal, Mauritius, Israel, Twrci, Madeira a Gwlad Belg.

Mae Cheryl wedi mordeithio gyda P&O Cruises a Royal Caribbean Cruise Lines gan gynnwys yr “Independence of the Seas”.


CV Cheryl:

  • 1984–1989 Thomas Cook mewn cangen yn Stryd Fawr Colchester yn Ymgynhorydd Teithio
  • 1989–1991 Europa Travel International, asiantaeth deithio annibynnolyn Colchester, yn rheolwr
  • 1991–1995 Thomas Cook Chelmsford yn Rheolwr Gwasanaeth i Gwsmeriaid
  • 1995–1996 Prif Swyddfa Thomas Cook yn Peterborough mewn Cysylltiadau Cwsmer
  • 1996–2000 Thomas Cook Colchester yn Rheolwr
  • 2000–2001 Travel Portfolio, Bury St Edmunds, yn Drefnydd Teithiau
  • 2001–presennol Travel Stop, Claydon

Gweithgaredd 1

Ar gyfres o fapiau gwag, nodwch leoliad pob un o’r gwledydd mae Cheryl wedi ymweld â nhw.

Ceisiwch nodi’n benodol yr holl gyrchfannau mae Cheryl wedi ymweld â nhw yn UDA, y Caribî ac Ewrop.

Gweithgaredd 2

Eglurwch pam mae amrywiaeth profiad teithio ei staff mor bwysig i Travel Stop.


Sut mae technoleg wedi newid yn y cyfnod mae Cheryl wedi gweithio yn y diwydiant teithio?

  • Roedd technoleg yn sylfaenol iawn yn yr 1980au.
  • Yn 1984 dim ond Thomson Holidays oedd â system archebu gyfrifiadurol a alwyd yn TOPS, ac a gyrchwyd trwy Viewdata. Roedd y system hon yn gweithio drwy ddeialu ffôn.
  • Defnyddiwyd Telex i ofyn am lety mewn gwestai dramor.
  • Dim atebion sydyn, amser ymateb o 24 awr ar gyfartaledd.
  • Byddai taflen gynllunio ar wal yn swyddfa’r Trefnydd Teithiau yn cael ei thicio â llaw pan fyddai asiantaethau teithio yn ffonio i ddweud eu bod wedi eu gwerthu nhw.
  • Datblygwyd maniffestau teithwyr ac ystafelloedd ar bapur.
  • Fe wnaeth datblygu systemau FFACS gyflymu pethau.
  • Yn 1990 roedd llawer yn dal i gael ei wneud ar y ffôn a Viewdata.

Yn asiantaeth deithio’r unfed ganrif ar hugain, defnyddir amrywiaeth o dechnoleg i gynorthwyo asiantaethau a chwsmeriaid. Defnyddir llungopïwyr, argraffyddion, peiriannau carpio, peiriannau ffacs a pheiriannau ffrancio yn ogystal â systemau ffôn.














Gwefannau a’r rhyngrwyd

Fodd bynnag, does dim amheuaeth mai technoleg gyfrifiadurol, sydd wedi hwyluso datblygiad y rhyngrwyd, yw’r newid sengl pwysicaf yn y ffordd y caiff cynhyrchion teithio eu marchnata a’u gwerthu. Mae gwefannau, systemau archebu a thalu ar-lein, cysylltiadau e-bost a theithio di-docyn i gyd wedi chwyldroi’r ffordd mae’r diwydiant teithio yn gweithredu.

Mae’n hanfodol bob gan bob corff teithio ei wefan ei hun sy’n galluogi cwsmeriaid posibl i weld y cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd ar gael.

Mae’r prif ffyrdd mae newidiadau technolegol wedi effeithio ar y diwydiant teithio yn cynnwys:

  • Mae systemau dosbarthu byd-eang (GDS) yn caniatáu i asiantaethau teithio gyrchu gwybodaeth am deithiau hedfan yn uniongyrchol, yn ogystal â gallu rhoi archebion ar gyfer llogi ceir a llety gan ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol.
  • Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o wyliau pecyn ar gael ar-lein yn ogystal â thrwy asiantaeth deithio y stryd fawr. Gellir edrych ar lyfrynnau ar-lein, gellir archwilio cyrchfannau a llety gan ddefnyddio gwe-gam, a gellir cymharu prisiau.
  • Mae’r newid mewn archebu teithio wedi cael ei gynorthwyo gan dechnoleg sy’n caniatáu i drafodion ariannol ddigwydd dros y rhyngrwyd.
  • Heddiw, mae’r prif gwmnïau hedfan i gyd yn caniatáu i’r cyhoedd gyrchu eu cronfa ddata o amserlenni a phrisiau teithiau hedfan, ac mae unrhyw deithiwr sydd â cherdyn credyd yn gallu archebu taith hedfan dros y rhyngrwyd.
  • Mae teithio 'di-docyn' yn golygu na roddir tocyn. Os oes gan y teithiwr gyfeirnod archebu, mae hynny’n profi bod ganddo/ganddi sedd gadw ac nid oes angen tocyn wedi’i argraffu.

Gweithgaredd 3

Aseswch y ffyrdd mae technoleg gyfrifiadurol wedi effeithio ar y ffyrdd y caiff cynhyrchion y diwydiant teithio eu prynu a’u gwerthu.


Cyngor ac arweiniad

Ni all asiantaeth deithio annibynnol fach fel Travel Stop gystadlu â chyrff mwy eu maint drwy werthiant gwefan uniongyrchol.

Cryfder Travel Stop yw’r cyngor y gall ei roi i’w gwsmeriaid trwy brofiad ei staff. Mae cwsmeriaid Travel Stop eisiau sicrwydd gwyliau sydd wedi cael eu trefnu a’u prynu gyda chyngor ac arweiniad asiantau teithio profiadol. Maen nhw eisiau bod yn siŵr bod gwyliau wedi cael eu darparu ar eu cyfer sy’n bodloni eu hunion anghenion. Prynir y gwyliau ar ôl trafod wyneb yn wyneb gyda’r asiant teithio mewn amgylchedd cysurus.

Mae’n bwysig deall bod Travel Stop, fel asiantaeth annibynnol, yn gweithredu’n wahanol i’r rhan fwyaf o asiantaethau teithio sydd wedi’u cysylltu â threfnwyr teithiau.

Mae annibyniaeth Travel Stop yn caniatáu i’r asiantaeth gynnig cynhyrchion amrywiaeth o drefnwyr teithiau i’w chwsmeriaid ac argymell y gwyliau sy’n gweddu orau i anghenion y cwsmeriaid.

Mae gwefan Travel Stop yn darparu gwybodaeth am yr amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau sydd ar gael, ac nid oes ganddi gyfleuster archebu ar-lein uniongyrchol.

Gweithgaredd 4

Cymharwch wefan Travel Stop â gwefan un o’r prif drefnwyr teithiau fel Thomas Cook neu Thomsons.

Nodwch a disgrifiwch y prif wahaniaethau.

Gwefan gan Gwerin