Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Prisiau Cynhyrchion

Gweithgaredd 2

Mae gofynion gwyliau pedwar cwsmer gwahanol wedi’u rhestru isod.

Defnyddiwch gopïau o’r ffurflen ddyfynbris i ddarparu dyfynbris ar gyfer pob grŵp cwsmeriaid ar ôl gwneud ymchwil gan ddefnyddio gwefan y trefnydd teithiau y gellir ei chyrchu drwy’r cyswllt a roddir.

Ffurflen Ddyfynbris
Ffurflen Ddyfynbris




Grŵp Cwsmeriaid 1

Darparwch ddyfynbris ar gyfer Mr a Mrs Collier a hoffai fynd ar wyliau byr i Rifiera Ffrainc, gan aros yng nghyrchfan Cannes. Hoffen nhw aros am bedair noson ac maen nhw eisiau teithio o fewn y chwe wythnos nesaf. Mae gan y pâr gyllideb o tua£1,250 a hoffen nhw gael llety 4 seren os yw’n bosibl. Gallan nhw hedfan o unrhyw faes awyr yn ardal Llundain ac maen nhw’n fodlon defnyddio cwmni hedfan cost isel os oes taith hedfan uniongyrchol ar gael.

Darparwch ddyfynbris gan ddefnyddio’r trefnydd teithiau canlynol:

http://www.crestaholidays.co.uk/



Grŵp Cwsmeriaid 2

Darparwch ddyfynbris ar gyfer Tony a Sarah, sy’n byw gyda’u plant Tom, sy’n 11 oed, a James, sy’n 9 oed. Maen nhw eisiau i’r teulu gael wythnos o wyliau yng Nghanolbarth Lloegr, ond maen nhw’n ansicr a ddylen nhw gael gwyliau cwch camlas neu rentu bwthyn. Rhaid iddyn nhw gael eu gwyliau yn wythnos olaf Awst. Mae gan y teulu gyllideb o tua £900. Darparwch ddyfynbrisiau ar gyfer y ddau fath o wyliau.

Darparwch ddyfynbris gan ddefnyddio’r trefnydd teithiau canlynol:

http://www.hoseasons.co.uk/?pid=900&_$ja=tsid:8705



Grŵp Cwsmeriaid 3

Darparwch ddyfynbris ar gyfer Mr a Mrs Matthews a Mr a Mrs Wilson, sydd newydd ymddeol ac sydd eisiau treulio tair wythnos yn Ne Affrica. Maen nhw eisiau ymweld â Cape Town a chymryd rhan mewn saffari. Maen nhw eisiau teithio ym mis Tachwedd neu Ionawr er mwyn mwynhau misoedd yr haf yn Ne Affrica. Maen nhw wedi teithio gyda Kuoni yn y gorffennol, ond maen nhw’n fodlon rhoi cynnig ar drefnydd teithiau arall. Eu cyllideb yw hyd at £6,000 y pâr.





Grŵp Cwsmeriaid 4

Darparwch ddyfynbris ar gyfer Martha a’i merch Sophia sy’n 12 oed. Maen nhw’n byw yng Nghaerdydd ac maen nhw eisiau aros yn Llundain am ddwy noson, gan deithio yn ystod cyfnod gwyliau’r Pasg. Yn arbennig, maen nhw eisiau ymweld â’r London Eye a San Steffan. Y gyllideb yw £250, gan gynnwys teithio ar drên. Maen nhw’n fodlon rhannu ystafell.

Darparwch ddyfynbris gan ddefnyddio’r trefnydd teithiau canlynol:

http://www.superbreak.com/?kw=superbreaks



Gwefan gan Gwerin