Y Broses Werthu

Prif fusnes Travel Stop yw gwerthu gwyliau a chynhyrchion teithio eraill i gwsmeriaid. Mae’r busnes yn gwneud arian drwy gael ei dalu comisiwn ar yr holl gynhyrchion a werthir.
Defnyddir gwybodaeth a phrofiad teithio y staff a gyflogir gan Travel Stop i gynnig cynhyrchion a lefel o wasanaeth nad yw ar gael drwy archebion ar y rhyngrwyd neu gadwynau’r stryd fawr.
Gweithgaredd 1
Mae’r Broses Werthu yn Travel Stop yn cynnwys 7 cam. Gweithiwch allan beth ydyn nhw.
Ar ôl dangos yr atebion, cliciwch ar bob un i ddysgu mwy amdano.