Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Rheoli Teithio a Gwarchod Defnyddwyr

Wrth i’r maint o deithio a wneir a’r gwyliau a gymerir gynyddu dros amser, bu angen llunio rheoliadau a chynlluniau â’r nod o warchod defnyddwyr os bydd y corff sy’n darparu eu teithio yn mynd i’r wal neu os bydd rhywbeth arall yn mynd o’i le.

Mae cynlluniau fel bondiau ABTA, trwyddedau ATOL a Rheoliadau Pecyn yr Undeb Ewropeaidd yn enghreifftiau pwysig o’r dulliau gweithredu sydd yn eu lle i helpu i ddiogelu’r arian sydd wedi cael ei dalu gan gwsmeriaid am eu gwyliau neu eu teithio.

Er gwaetha’r cynlluniau hyn, mae rhywfaint o ddrysu o hyd ynghylch yr union drefniadau ar gyfer diogelu arian defnyddwyr a dydy’r darlun ddim bob amser yn gwbl glir.

Gall asiantaeth deithio fel Travel Stop wneud un o dri pheth wrth werthu cynhyrchion teithio.

  1. Gall Travel Stop werthu ‘pecyn’ cyfan ar ran trefnydd teithiau.
  2. Gall Travel Stop werthu eitemau unigol, fel teithiau hedfan ar ran cwmni hedfan neu lety ar ran darparwr llety.
  3. Gall Travel Stop greu a gwerthu pecyn, yn cynnwys teithiau hedfan, llety ac eitemau eraill, i aelodau o’r cyhoedd.

Mae gan Travel Stop gyfrifoldebau ac atebolrwydd gwahanol ym mhob un o’r amgylchiadau hyn.

Mae Rheoliadau Pecyn yr UE yn ymdrin â gwerthu gwyliau pecyn.

Beth yw ‘pecyn’?

Ystyr pecyn yw set ragdrefnedig o wasanaethau teithio sy’n cael eu gwerthu neu eu cynnig ar werth am bris cynhwysol, sy’n ymdrin â chyfnod o fwy na 24 awr neu’n cynnwys arhosiad dros nos ac sy’n cyfuno o leiaf dau o’r canlynol:

  • Cludiant
  • Llety
  • Gwasanaethau eraill i dwristiaid nad ydynt yn ymwneud â chludiant neu lety ac sy’n cyfrif am gyfran sylweddol o bris y pecyn (e.e. trosglwyddiadau)
Sut mae Travel Stop yn cydymffurfio â
gofynion Rheoliadau Teithiau Pecyn yr UE?
  • Mae Travel Stop yn gwerthu pecynnau gan ddefnyddio trefnwyr teithio parchus.
  • Mae Travel Stop yn sicrhau bod manylion y llyfrynnau yn cael eu gwirio am gywirdeb.
  • Y Trefnydd Teithiau sy’n creu’r pecyn ac sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r rheoliadau (nid yr asiantaeth deithio).

Mae’r wybodaeth isod yn dangos y berthynas gyfreithiol rhwng y cwsmer, yr asiantaeth deithio a’r trefnydd teithiau. Mae’n bwysig deall bod y contract i ddarparu’r pecyn yn gontract rhwng y trefnydd teithiau a’r cwsmer. Mae’r asiant teithio yn asiant a dim mwy na hynny.

Mae Asiantaeth Deithio yn darparu allfa ar gyfer cynhyrchion y Trefnydd Teithiau. Ni fydd yr asiantaeth yn gwneud contract gyda’r cwsmer, ond bydd yn trefnu i’r cwsmer wneud contract gyda’r Trefnydd Teithiau. Mae nodweddion allweddol Asiantaeth Deithio yn cynnwys:

  • bod â dyletswydd gofal i’r Trefnydd Teithiau
  • bod â dyletswydd gofal i gwsmeriaid
  • rhwymedigaeth i roi cyfrif i’r Trefnydd Teithiau
  • tâl drwy gomisiwn yn hytrach na thrwy elw preifat
  • marchnata a hyrwyddo cynhyrchion y Trefnydd Teithiau
  • awdurdod i gasglu tâl, ac i weithredu a chasglu ffioedd ar ran y Trefnydd Teithiau

Fel asiantaeth deithio, does dim gofyniad cyfreithiol i gynnig diogelu ariannol i gwsmeriaid.

Beth yw manteision archebu gwyliau pecyn drwy
asiantaeth annibynnol fel Travel Stop?

Mae Travel Stop yn annibynnol ac nid yw’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r cwmnïau teithio mawr, felly mae’n gallu canolbwyntio ar ddod o hyd i’r gwyliau gorau am bris cystadleuol.

Mae Travel Stop wedi’i fondio’n llwyr felly mae arian cleientiaid yn ddiogel.

Mae Travel Stop yn aelod o:

  • ABTA – Cymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain (Association of British Travel Agents)
  • IATA – Cymdeithas Cludiant Awyr Rhyngwladol (International Air Transport Association)
  • ATOL – Trwyddedu Trefnwyr Teithio drwy’r Awyr (Air Travel Organisers’ Licensing)
  • AITO – Cymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (Association of Independent Tour Operators)
  • ACE – Cymdeithas Arbenigwyr Mordeithiau (Association of Cruise Experts)

Mae Travel Stop yn aelod o ABTA ac mae ganddo drwydded sy’n golygu bod:

  • Travel Stop yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael y gwasanaeth gorau posibl
  • Travel Stop yn cynnal ac yn gwella enw da ABTA
  • Travel Stop yn hybu enw da a statws ABTA a’i aelodau
  • Travel Stop yn ufuddhau i God Ymddygiad ABTA fel asiant

Mae’n amod o fod yn aelod o ABTA bod Travel Stop yn rhoi bond neu ryw fath arall o warant i ABTA.

Beth yw ystyr bond ABTA?

Mae bond yn debyg i bolisi yswiriant. Mae’n ymrwymiad gan fanc neu gwmni yswiriant cydnabyddedig i dalu swm arian i ABTA os bydd asiantaeth deithio yn methu’n ariannol. Prif bwrpas y trefniant yw ad-dalu cwsmeriaid a fyddai fel arall yn colli arian a dalwyd ganddynt i’r asiantaeth deithio.

Pam mae angen hyn?

Yn bennaf oherwydd os ydy cleient wedi talu arian i asiantaeth deithio, sy’n mynd i’r wal cyn trosglwyddo arian y cleient i’r trefnydd teithiau, gallai’r cleient golli’r arian.

Gweithgaredd 1

Defnyddiwch y cyswllt isod â gwefan ABTA i egluro’r termau canlynol:

http://www.abta.com/join/member_introduction/financial_protection

  • Asiant
  • Penadur (Principal)
  • Diogelu Ariannol
  • Bond

Gweithgaredd 2

Sut mae’r arian mae cwsmeriaid wedi’i dalu am eu gwyliau yn cael ei ddiogelu?

Pryd mae asiantaeth deithio yn drefnydd pecyn?

Os ydy asiantaeth deithio fel Travel Stop yn gwerthu taith sydd wedi’i chynnwys mewn llyfryn, neu’n gwerthu gwyliau parod an drefnydd teithiau, nid yw’n creu gwyliau pecyn a’r trefnydd teithiau sy’n gorfod darparu diogelu ariannol drwy gael trwydded ATOL.

Os ydy asiantaeth deithio fel Travel Stop yn gwerthu dau wasanaeth teithio gyda’i gilydd (fel taith hedfan a llety) am un pris, mae’n creu pecyn ac mae’n ofynnol arni i ddarparu diogelu ariannol drwy gael trwydded ATOL.

Beth yw ATOL (Trwydded Trefnwyr Teithio drwy’r Awyr)?

Mae ATOL yn diogelu cwsmeriaid rhag colli eu harian neu fod dramor heb fodd i ddod adref. Mae’n gwneud hyn drwy gynnal gwiriadau o’r trefnwyr teithiau mae’n eu trwyddedu a mynnu eu bod yn cymryd rhan mewn cynllun gwarant ariannol a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Teithio drwy’r Awyr (Air Travel Trust - ATT) sy’n darparu’r arian i ddiogelu cwsmeriaid os bydd cwmni’n methu.

Os bydd trefnydd teithiau yn mynd i’r wal, bydd y CAA yn sicrhau na fydd cwsmeriaid yn colli’r arian maen nhw wedi’i dalu, neu os byddan nhw dramor, bydd yn trefnu eu bod nhw’n cwblhau eu gwyliau ac yn hedfan adref.

Dydy cwmnïau hedfan unigol ddim wedi’u diogelu gan ATOL. Felly os bydd cwsmer yn prynu taith hedfan yn uniongyrchol gan gwmni hedfan, sy’n peidio â gweithredu, efallai na fydd y cwsmer hwnnw wedi’i ddiogelu.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ATOL yn:

http://www.caa.co.uk/default.aspx?catid=1080&pagetype=90

Gweithgaredd 3

Mae’r cyswllt isod yn set o gwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch sut mae’r system ATOL yn gweithio.

Ar gyfer pob un o’r cwestiynau hyn crynhowch yr atebion a roddir.

http://www.caa.co.uk/default.aspx?catid=1080&pagetype=70

Gweithgaredd 4

Erbyn hyn mae mwy o deithwyr yn archebu a phrynu eu teithiau drwy’r rhyngrwyd i greu gwyliau annibynnol, yn hytrach nag archebu drwy asiantaethau teithio a threfnwyr teithiau.

Mae’r cyswllt isod yn darparu gwybodaeth am risgiau yr hyn mae’r CAA yn ei alw yn 'wyliau DIY'.

http://www.caa.co.uk/default.aspx?catid=1080&pagetype=90&pageid=6453

Defnyddiwch y cyswllt i lunio cyflwyniad sy’n nodi manteision ac anfanteision archebu drwy gwmni teithio sydd ag ATOL.

Gweithgaredd 5

Erbyn hyn dylech chi allu egluro’r gwahaniaeth rhwng bond ABTA a thrwydded ATOL.

Beth yw Cyfarwyddyd 90/314/EEC?

Mae llawer o’r rheoliadau cyfredol ynghylch gwerthu gwyliau pecyn yn deillio o Gyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar werthu gwyliau pecyn.

Dangosir isod eglurhad o’r cyfarwyddyd hwn.

http://ec.europa.eu/consumers/cons_int/safe_shop/pack_trav/index_en.htm

The Council Directive 90/314/EEC on package travel, package holidays and package tours

The Directive is designed to protect consumers who contract package travel in the EU. It covers the sale of a pre-arranged combination: Consumers are covered where at least two of these elements are sold or offered for sale at an inclusive price and the service covers a period of more than twenty-four hours or includes overnight accommodation.

The Directive contains rules concerning the liability of package organisers and retailers, who must accept responsibility for the performance of the services offered. There are some exceptions, for example cases of "force majeure", or similar circumstances which could be neither foreseen nor overcome. However, even in these cases the organiser must use his best endeavours to help consumers. The amount of compensation payable may be subject to certain limits but not to an unreasonable degree.

The Directive also prescribes rules on the information that must be given to consumers at different points in time. It contains specific requirements with regard to the content of brochures, where these are issued. For example, any brochure made available to consumers must indicate clearly and accurately the price, destination, itinerary and the means of transport used, type of accommodation, meal plan, passport and visa requirements, health formalities, timetable for payment and the deadline for informing consumers in the event of cancellation.

Consumers are entitled to cancel the contract if the organiser seeks to change the essential elements of the arrangements agreed. During the 20 days prior to departure the price stated in the contract cannot be increased.

There are provisions specifying the consumers' rights if, after departure, a significant proportion of the services contracted for is not provided or the organiser and/or retailer fail to perform in line with their obligations arising from the contract.

The Directive also contains provisions on the security to be provided by operators and covering repayment of the price and repatriation of consumers in the event of the operator's insolvency.

Gweithgaredd 6

Crynhowch Gyfarwyddyd yr UE ar werthu gwyliau pecyn mewn cyflwyniad o hyd at 10 sleid.

Crynodeb
  • Mae amrywiaeth o ddeddfau a rheoliadau sy’n rheoli gwerthu gwyliau pecyn a theithio.
  • Yn gyffredinol, mae asiantaethau teithio sy’n gwerthu cynhyrchion trefnwyr teithiau yn tueddu i fod yn aelodau ABTA ac mae ganddyn nhw drefniant bond.
  • Mae trefnwyr teithiau sy’n gwerthu pecynnau sy’n cynnwys teithio mewn awyren yn gorfod cael trwydded ATOL.
  • Dydy teithiau hedfan mae pobl yn eu prynu yn uniongyrchol gan gwmnïau hedfan ddim wedi’u diogelu yn yr un modd.
Gwefan gan Gwerin