Beth sy’n Gallu Mynd o’i Le?
Mae pob cwmni teithio yn gweithredu fel cyrff masnachol, yn amcanu at wneud elw. Mewn amodau masnachu anodd, pan fydd gwerthiant yn isel neu gostau’n cynyddu, nid yw’n bosibl i’r corff barhau i weithredu. Pan fydd hynny’n digwydd bydd y cwmni’n peidio â masnachu, yn methu talu ac yn dod i ben. Gall hyn ddigwydd i asiantaethau teithio, trefnwyr teithiau neu gwmnïau hedfan.

Un o nodweddion unigryw llawer o gwmnïau teithio yw bod yr arian yn cael ei dalu gan y cwsmer i’r cwmni dipyn o amser cyn i’r cynnyrch gael ei dreulio. Mewn llawer o achosion mae pobl yn talu am deithiau hedfan a gwyliau wythnosau neu fisoedd cyn mynd ar y teithiau a’r gwyliau. Mae hyn yn codi’r mater o ddiogelu arian y cwsmer os bydd y cwmni teithio neu’r cwmni hedfan yn mynd i’r wal ar ôl i’r arian gael ei dalu gan y cwsmer.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae amodau economaidd wedi bod yn fwy anodd. Mae prisiau olew (sy’n pennu cost tanwydd awyrennau) wedi bod yn llai sefydlog ac mae’r tro cyffredinol ar i lawr yn yr economi byd-eang wedi effeithio ar nifer o gwmnïau teithio. Hefyd mae digwyddiadau naturiol fel cymylau llwch folcanig a streiciau wedi effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.
Bob blwyddyn mae nifer o gwmnïau teithio yn dod i ben. Mae’r cwmnïau isod yn enghreifftiau o gyrff teithio sydd wedi peidio â masnachu yn y blynyddoedd diwethaf.
- Zoom Airways
- Silverjet
- XL Leisure
- Sun4u
- Goldtrail
- Kiss Flights
Ym mhob un o’r achosion hyn, ac mewn achosion eraill, roedd teithwyr wedi cael eu gadael dramor ac yn gorfod gwneud trefniadau eraill i ddod adref. Roedd pobl eraill wedi gweld eu teithiau hedfan neu eu gwyliau yn cael eu canslo ar y foment olaf, neu bu’n rhaid iddyn nhw wneud trefniadau eraill a thalu amdanyn nhw eu hunain.
Gweithgaredd 1
Defnyddiwch y cyswllt isod â gwefan y BBC i archwilio’r hyn a ddigwyddodd pan fethodd y cwmnïau teithio Goldtrail, Sun4u a Kiss Flights yn ystod haf 2010. Dilynwch y cysylltau i eitemau eraill ynghylch cwymp y cwmnïau hyn.

http://www.bbc.co.uk/news/business-11009132
Gweithgaredd 2
Ar ôl dilyn y cysylltau, nodwch 6 ffordd y gallai cwymp cwmnïau effeithio ar gwsmeriaid sydd wedi archebu teithiau hedfan gyda nhw.
Gweithgaredd 3
Mae’r cyswllt isod yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd pan fydd trefnwyr teithiau a chwmnïau hedfan yn peidio â masnachu:
http://www.bbc.co.uk/watchdog/consumer_advice/latest_travel_emp.shtml
Crynhowch y wybodaeth a roddir gan y cyswllt Watchdog gan y BBC.
Mae arian cwsmeriaid sy’n cael ei dalu i gwmnïau teithio cyn iddyn nhw deithio yn cael ei ddiogelu lawer mwy nag a fyddai yn y gorffennol. Dyma’r sefyllfa gyffredinol:
- Mae 'gwyliau pecyn' sy’n cynnwys teithiau hedfan yn cael eu diogelu gan y cynllun ATOL, a weithredir gan y CAA.
- Mae ABTA a chymdeithasau masnach eraill yn gweithredu cynlluniau ‘bond’ sy’n diogelu’r arian a gaiff ei dalu i asiantaethau teithio.
- Dydy pobl sy’n archebu teithiau hedfan yn uniongyrchol gyda chwmnïau hedfan ddim yn cael eu diogelu gan y cynllun ATOL. Erbyn hyn mae yswiriant methiant cwmni hedfan ar gael i ymdrin â’r sefyllfa hon.
- Yn gyffredinol, mae’r bobl sy’n gwneud eu trefniadau teithio eu hunain yn annibynnol yn wynebu mwy o risg na chwsmeriaid sy’n archebu drwy asiantaethau teithio sydd wedi’u bondio.
- Mae archebion a wneir â cherdyn credyd yn cael eu diogelu gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Dydy llawer o bobl ddim yn gwybod yr union sefyllfa ynghylch diogelu eu harian pan fyddan nhw’n archebu teithiau. Er enghraifft, efallai na fyddan nhw’n ymwybodol o’r ‘print mân’ yn eu hyswiriant teithio a’r amgylchiadau maen nhw wedi’u diogelu ar eu cyfer.
Mae’r cyswllt isod ag erthygl yn y Daily Mail yn dangos y drysu ynghylch Yswiriant Methiant Cwmni Hedfan Rhestredig (Scheduled Airline Failure Insurance - SAFI).
http://www.dailymail.co.uk/travel/article-611813/What-airline-collapses.html

Gweithgaredd 4
Nodwch y tri phrif bwynt a wneir gan yr erthygl yn y Daily Mail.
Er bod rheoliadau yn eu lle i ddiogelu’r arian mae cwsmeriaid yn ei dalu i gwmnïau teithio, mae sefyllfaoedd yn aml yn digwydd nad oes gan y diwydiant ddim rheolaeth arnynt, sy’n arwain at ganslo teithiau ac amharu ar drefniadau. Mae tywydd gwael yn y gaeaf neu ddigwyddiadau anarferol, fel y llwch a grëwyd gan yr echdoriad folcanig yng Ngwlad yr Iâ, yn gallu achosi i gwsmeriaid golli arian neu hawlio ar eu hyswiriant teithio. Bydd yr union sefyllfa yn amrywio o gwsmer i gwsmer.
Mae’r cysylltau isod yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn a allai ddigwydd.
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/8630145.stm
http://www.guardian.co.uk/money/2010/apr/15/iceland-volcano-travel-insurance
Mae’n ymddangos bod gan bobl sy’n archebu pecynnau drwy gwmnïau sydd â bondiau ATOL neu sy’n defnyddio asiantaethau teithio sydd â bondiau ABTA fwy o ddiogelwch na phobl sy’n archebu’n annibynnol yn uniongyrchol â chwmnïau hedfan a darparwyr llety.
Mae twf cwmnïau hedfan cost isel a rhwyddineb defnyddio’r rhyngrwyd i archebu ar-lein wedi hybu twf archebion annibynnol. Mae’n hawdd iawn archebu teithiau hedfan ar gyfer gwyliau penwythnos yn Barcelona, er enghraifft, ac archebu ar-lein ystafell gadw mewn gwesty yn y ddinas.
Fodd bynnag, pe bai’r cwmni hedfan yn peidio â masnachu y diwrnod cyn bod y gwyliau i ddechrau, gallai arian a dalwyd am y teithiau hedfan a’r llety gael ei golli, yn dibynnu ar ba yswiriant a drefnwyd a’r union sefyllfa.
Byddai gwyliau tebyg a archebwyd fel pecyn drwy asiantaeth deithio fel Travel Stop wedi’u diogelu gan ATOL y trefnydd teithiau mae Travel Stop yn delio ag ef.
Hefyd, pe bai trefniadau teithio yn gorfod cael eu newid ar fyr rybudd, byddai staff profiadol Travel Stop yn gallu cynorthwyo’r cwsmer a gwneud trefniadau eraill.
Crynodeb
- Defnyddir ATOL, bondiau ABTA a gwahanol fathau o yswiriant teithio i ddiogelu’r arian a gaiff ei dalu i gwmnïau teithio.
- Yn gyffredinol mae’r cwsmeriaid hynny sy’n archebu ar-lein yn uniongyrchol â chwmnïau hedfan a darparwyr eraill yn wynebu mwy o risg.
- Pan fydd pethau’n mynd o chwith, mae profiad staff a gyflogir gan asiantaethau teithio fel Travel Stop yn hanfodol o ran helpu cwsmeriaid i wneud trefniadau newydd.