Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch

Yn debyg i unrhyw fusnes arall, mae’n rhaid i Travel Stop gydymffurfio ag amrywiaeth o ddeddfau Iechyd a Diogelwch. Mae hyn yn bennaf yn cynnwys:

  • Deddfwriaeth Gwarchod Data
  • Deddfwriaeth Anabledd

(Mae deddfwriaeth flaenorol, gan gynnwys y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, wedi cael eu cynnwys yn y Ddeddf Cydraddoldeb, 1af Hydref 2010)

Mae gofyn bod Travel Stop yn casglu llawer iawn o ddata ynglŷn â’i gwsmeriaid. Mae’n bwysig bod y data hyn yn cael eu storio’n ddiogel, naill ai mewn modd electronig neu ar ffurf copi caled, ac na ellir eu cyrchu gan unrhyw barti arall. Mae Deddf Gwarchod Data 2005 yn ymdrin â storio a defnyddio data personol.

Gweithgaredd 1

Gan ddefnyddio dogfen y Ffurflen Ymholi, nodwch 10 darn o ddata personol y gallai Travel Stop ofyn i’w gwsmeriaid eu darparu.

Ffurflen Ymholi
Ffurflen Ymholi

Deddf Gwarchod Data

Mae wyth egwyddor yn y Ddeddf Gwarchod Data mae’n rhaid i Travel Stop ufuddhau iddyn nhw. Mae Travel Stop yn nodi isod sut mae’n gwneud hynny.

1. Data must be fairly and lawfully processed

Clients are told our name and what we will use their information for, and any other information we might need in order to be able to use their personal information fairly. For example: We will not give information to anyone else unless they are directly involved in a client's holiday.

2. Data is processed for limited purposes

Personal information is processed for the purpose of making a booking. Travel Stop will tell clients if we might pass their information to other organisations, for example a tour operator, an airline or a hotel.

3. Data must be adequate, relevant and not excessive

Travel Stop only collects personal information related to bookings. Medical information for insurance is given directly to the insurance company medical screening department. Information such as requests for assistance or special diets will be shared as necessary.

4. Data must be accurate and up to date

Clients' details are entered on the Travel Agents Database (TAD) and updated when advised by clients of changes.

5. Data will not be kept for longer than necessary

Travel Stop's database is kept up to date and information is only held for the purposes for which it was collected. Information is kept for 6 years as that is the length of time within which a client may bring a legal claim. Other pieces of information, such as credit card details, are immediately destroyed after they have been used.

6. Data will be processed in line with rights of individuals

  • a right of access to a copy of the information kept in their personal data;
  • a right to object to processing that is likely to cause or is causing damage or distress;
  • a right to prevent processing for direct marketing;
  • a right to object to decisions being taken by automated means;
  • a right in certain circumstances to have inaccurate personal data rectified, blocked, erased or destroyed;
  • a right to claim compensation for damages caused by a breach of the Act.

7. Data will be kept securely

Archived booking details are kept upstairs and the area is locked at night. The IT network is protected by anti-virus and firewall software. Files on current bookings are kept locked in a filing cabinet in the administration room.

8. Data will not be transferred to other countries without adequate protection

Travel Stop will pass information on only to a person responsible for part of the client’s travel arrangements.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am 8 egwyddor y Ddeddf Gwarchod Data yn:

http://www.ico.gov.uk/Home/for_organisations/data_protection/the_guide.aspx


Pwyntiau cyffredinol

  • Mae Travel Stop yn hysbysu cleientiaid bod ganddyn nhw hawl i gael gweld eu gwybodaeth ac i gael y wybodaeth wedi’i chywiro os yw’n ffeithiol anghywir.
  • Mae papurau sy’n cynnwys gwybodaeth am gwsmeriaid yn cael eu carpio.
  • Mae’r adeiladau’n ddiogel ac yn cael eu diogelu gan deledu cylch-caeedig a larymau
  • Mae hunaniaeth a dibynadwyedd staff yn cael eu gwirio wrth recriwtio.
  • Mae cytundeb cyfrinachedd yng nghontractau’r staff.
  • Mae hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant arall y staff yn amlygu gofynion y Ddeddf a dulliau gweithredu Travel Stop.

Gweithgaredd 2

Ydy’r gosodiadau ynghylch Travel Stop a’i gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data yn gywir neu’n anghywir?

Gweithgaredd 3

Aseswch i ba raddau mae Travel Stop wedi cymryd camau rhesymol i gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data.

Deddfwriaeth Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Oddi ar 1af Hydref 2010, mae’r Ddeddf Cydraddoldeb wedi cymryd lle’r rhan fwyaf o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DDA). Fodd bynnag, mae’r 'Dyletswydd Cydraddoldeb Anabledd’ yn y DDA yn dal i fod yn berthnasol.

Darganfyddwch wybodaeth am y warchodaeth a’r hawliau cyfreithiol mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn eu darparu ar gyfer pobl anabl drwy gyrchu’r wefan isod:

http://www.direct.gov.uk/en/DisabledPeople/RightsAndObligations/DisabilityRights/DG_4001068

Gweithgaredd 4

Mae Travel Stop wedi cynhyrchu cyflwyniad PowerPoint sy’n crynhoi’r camau a gymerwyd i gydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

Ymchwiliwch i wefan y Ddeddf Cydraddoldeb i ddatblygu a diweddaru’r cyflwyniad. Ychwanegwch ddelweddau a dyfyniadau priodol o wefan y Ddeddf Cydraddoldeb lle mae angen.

Deddfwriaeth Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
Deddfwriaeth Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Gweithgaredd 5

Aseswch i ba raddau mae Travel Stop wedi cymryd camau rhesymol i gydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb.

Crynodeb
  • Mae Travel Stop yn trafod cryn dipyn o ddata personol ynglŷn â’i gleientiaid ac felly mae’n rhaid iddo sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data.
  • Hefyd mae Travel Stop wedi gorfod gwneud darpariaeth ar gyfer pobl ag anabledd a bydd yn rhaid iddo adolygu hyn yng ngoleuni deddfwriaeth newydd.
  • Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn enghraifft o’r ffordd mae deddfwriaeth yn parhau i gael ei datblygu dros amser. Rhaid i bob busnes fod yn ymwybodol o’r datblygiadau hyn.
Gwefan gan Gwerin