
Worldchoice
Fel aelod o Worldchoice, mae Travel Stop yn cael budd o fod yn rhan o’r consortia mwyaf o asiantaethau teithio yn y Deyrnas Unedig.
Gweithgaredd 4
Defnyddiwch y cyswllt isod i fynd i wefan Worldchoice:
Crynhowch y buddion i Travel Stop o fod yn aelod o’r grŵp Worldchoice.

ABTA
Yn debyg i bron pob asiantaeth deithio yn y Deyrnas Unedig, mae Travel Stop yn aelod o ABTA (Cymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain). Mae bod yn aelod o ABTA yn rhoi buddion i Travel Stop a’i gwsmeriaid.
Mae un o’r pwysicaf o’r rhain yn ymwneud â diogelu arian a dalwyd gan gwsmeriaid pan fydd cwmni gwyliau yn mynd i’r wal, neu pan fydd digwyddiad mawr yn achosi canslo trefniadau teithio mae’r cwsmer wedi talu amdanynt.
Mae’n bwysig deall nad yw’r union sefyllfa ynghylch diogelu taliadau cwsmeriaid yn gwbl glir ym mhob achos, ond mewn llawer o sefyllfaoedd bydd cwsmeriaid sy’n archebu gydag asiantaethau teithio sy’n aelodau o ABTA yn gallu cael ad-daliad o’u harian.

ACE
Mae Travel Stop hefyd yn aelod o Gymdeithas Arbenigwyr Mordeithiau (ACE). Yn ogystal â gwasanaethau eraill, mae ACE yn cynnig hyfforddiant a chymorth i asiantaethau teithio sy’n gwerthu gwyliau mordaith. Mae ACE yn crynhoi ei wasanaethau yn y paragraff isod:
”ACE is the award-winning training and support organisation dedicated to providing expert cruise training and support for travel agents and peace of mind for customers. We are supported by 35 of the world's leading cruise lines and in turn support over 12,000 individual travel agents to make sure that cruise customers get the holiday of their dreams. Our cruise training includes online modules and information, Cruise Expo events, Know How seminars, Learning at Sea opportunities and ship visits.“
Gweithgaredd 5
Defnyddiwch y cyswllt isod i ddarganfod mwy o wybodaeth am y cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan ACE:
http://www.cruiseexperts.org/default.asp?PID=140&PPID=1&PageName=what is ace?
Ysgrifennwch grynodeb o’r prif fuddion i Travel Stop o fod yn aelod o ACE.

TIPTO
Y bedwaredd gymdeithas mae Travel Stop yn aelod ohoni yw TIPTO – Y Corff Teithio Proffesiynol Gwir Annibynnol (The Truly Independent Professional Travel Organisation).
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am TIPTO yn:
Gweithgaredd 6
Awgrymwch pam y byddai pob un o’r gwasanaethau a restrir isod sy’n cael eu cynnig gan TIPTO yn bwysig i Travel Stop:
- Cyngor
- Hyfforddiant
- Gwasanaethau Addysgol
- Sioeau Pen Ffordd
- Cystadlaethau