Rydym yn ddiolchgar iawn am gydweithrediad saith corff teithio a thwristiaeth sydd wedi darparu amrywiaeth o wybodaeth ac amser staff ar gyfer datblygu’r adnodd hwn. Dewiswyd y cyrff i ddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau a gweithrediadau yn y diwydiannau hamdden, lletygarwch, teithio a thwristiaeth y mae deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn berthnasol iddynt.
Mae’r adnodd yn ymdrin â’r prif feysydd o iechyd a diogelwch sy’n effeithio ar ddulliau gweithredu pob un o’r cyrff sydd wedi’u cynnwys. Ni fwriedir iddyn nhw fod yn gwbl cynhwysfawr ac mewn rhai achosion bu’n rhaid cydnabod sensitifrwydd masnachol. Mewn rhai achosion, darparwyd gwybodaeth gynradd ac mae hon wedi’i chynnwys yn y nodiadau athrawon.