Bwriedir i’r adnodd gael ei ddefnyddio fel rhan o raglen strwythuredig o addysgu a dysgu, yn cynorthwyo myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth at amrywiaeth o gyrff teithio a thwristiaeth sy’n gweithredu mewn sectorau gwahanol o’r diwydiant.
Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi’u cynnwys yn yr adnodd. Mae rhai yn rhyngweithiol, mae eraill yn gofyn bod y myfyrwyr yn gwneud ymchwil ychwanegol ac yn llunio atebion ysgrifenedig.
Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud defnydd llawn o’r adnodd, mae Llyfrau Gwaith wedi’u darparu ar gyfer pob astudiaeth achos. Gall y rhain gael eu defnyddio yn electronig neu ar ffurf copi caled i asesu’r atebion mae myfyrwyr wedi’u cynhyrchu ar gyfer y gwahanol weithgareddau sy’n gofyn i fyfyrwyr lunio atebion ysgrifenedig. Hefyd, mae templedi PowerPoint wedi’u darparu ar gyfer pob astudiaeth achos pan awgrymir bod myfyrwyr yn paratoi cyflwyniad o wybodaeth.