Gwesty Millennium Copthorne Caerdydd
Mae’r astudiaeth achos hon yn ystyried nifer o agweddau ar iechyd a diogelwch sy’n ymwneud â rheoli gwesty 4 seren sydd ag amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau, gan gynnwys swît iechyd a chyfleusterau cynadledda helaeth. Mae nifer o asesiadau risg wedi’u cynnwys, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â COSHH, trefniadau trwyddedu a rheoli pyllau nofio a chyfleusterau sba.