Ogofâu Arddangos Dan-yr-Ogof
Mae canolfan Dan-yr-Ogof yn cynnwys nifer o atyniadau. Mae’r astudiaeth achos yn canolbwyntio ar faterion ynghylch yr ogofâu arddangos eu hunain a’r Ganolfan Ceffylau Gwedd. Yn yr Ogofâu Arddangos rhaid i’r corff reoli a chymhwyso deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch mewn amgylchedd naturiol, sydd hefyd wedi’i ddosbarthu’n S afle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r Ganolfan Ceffylau Gwedd yn enghreifftio natur dynamig materion iechyd a diogelwch gan fod ‘ffermydd anwesu’ tebyg wedi cael eu cysylltu yn ddiweddar ag achosion o E-coli.