Big Pit
Mae Big Pit yn atyniad unigryw sy’n gwahodd ymwelwyr i fynd ar daith o gwmpas pwll glo sy’n dal i weithredu dan reoliadau a osodwyd gan y Ddeddf Pyllau Glo. Mae safle hen bwll glo yn cyflwyno llawer o heriau a materion o ran rheoli iechyd a diogelwch, yn enwedig gan fod llawer o grwpiau ysgol yn ymweld â’r atyniad.