Bwriedir i’r adnodd hwn gynorthwyo yn bennaf myfyrwyr sy’n astudio cymwysterau Lefel 3 fel Teithio a Thwristiaeth Safon Uwch, yn ogystal ag OCR a BTEC Nationals. Mae’r myfyrwyr hyn yn debygol o fynd ymlaen i addysg uwch i astudio cyrsiau rheoli lletygarwch, digwyddiadau neu dwristiaeth. Efallai hefyd y gwnân nhw fynd i mewn i’r diwydiant a bod yn rheolwyr.
Gall rhai adrannau o’r adnodd gael eu defnyddio i gefnogi manylebau Lefel 2, fel TGAU mewn Teithio a Thwristiaeth; fodd bynnag, bydd angen i athrawon sicrhau bod y gweithgareddau a’r wybodaeth o fewn cyrraedd y myfyrwyr.
I bob rheolwr yn y diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth, mae dealltwriaeth o ddeddfau a rheoliadau Iechyd, Diogelwch a Gwarchodaeth yn hollbwysig. Amcan yr adnodd hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o ystod a chwmpas y deddfau a’r rheoliadau a’r modd mae’r rhain yn effeithio ar reoli gwahanol gyrff teithio a thwristiaeth.
Yn debyg i agweddau eraill ar y diwydiant teithio a thwristiaeth, mae rheoli iechyd a diogelwch yn ddynamig. Mae digwyddiadau nad oes gan y diwydiant reolaeth arnynt yn gallu cael effeithiau mawr. Mae deddfwriaeth, rheoliadau a chyfarwyddiadau yn cael eu diweddaru yn gyson gan lywodraeth a rheolyddion, a gall cyfrifoldebau’r cyrff hyn gael eu newid ar unrhyw adeg, neu gall y cyrff hyd yn oed gael eu dileu gan y llywodraeth.
Roedd y wybodaeth a ddarperir yn yr adnodd hwn yn berthnasol adeg yr ysgrifennu, sef rhan olaf 2010 a rhan gyntaf 2011.