Smile

Effeithiau Twristiaeth a
Datblygiadau Cynaliadwy Effeithiau Twristiaeth Grefyddol - Lourdes



Beth yw effeithiau twristiaeth ar Lourdes?

 
Slide 1
Slide 2
Example Frame


GWYBODAETH

Yn Lourdes, fe welir fod ardal y rhodfa o amgylch yr adeiladau crefyddol wedi cael ei chadw’n glir o ddatblygiad. Gan ddefnyddio rhaglen fel Google Earth, archwiliwch y gwahaniaeth rhwng y nodweddion i’r gorllewin a’r de o afon Gave de Pau a’r rhai i’r dwyrain dros y bont. Mae’r ddwy ddelwedd isod yn dangos y cyferbyniad.

GWEITHGAREDD 2 – Effeithiau – Cadarnhaol neu Negyddol?
Sgrîn Llawn

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player







LÓG TYSTIOLAETH 5 - Enghraifft dda o Dwristiaeth Gynaliadwy?

O’r dystiolaeth a geir gan y delweddau ar y ddwy ddalen uchod, a yw Lourdes, yn eich barn chi, yn enghraifft dda o dwristiaeth gynaliadwy? Cofnodwch eich barn ar y Lóg Tystiolaeth

GWYBODAETH

Effaith arall sy’n gysylltiedig â chyrchfannau crefyddol megis Lourdes, yw’r un o drefnwyr teithiau arbenigol sy’n darparu ymweliadau i’r cyrchfan. Mae pob un o’r croesau yn y ddelwedd isod wedi cael eu gadael gan grŵp eglwysig a ymwelodd â Lourdes. Buasai llawer o’r math hwn o grwpiau wedi defnyddio gwasanaethau trefnwyr teithiau arbenigol.

lourdes


LÓG TYSTIOLAETH 6 - Trefnwyr Teithiau Arbennig

Rhowch grynodeb o’r cynnyrch a’r cyrchfannau a ddarperir gan naill neu’r llall o’r ddau drefnydd teithiau isod: