Smile

Effeithiau Twristiaeth a
Datblygiadau Cynaliadwy Effeithiau Twristiaeth Grefyddol - Lourdes



Sut y mae tueddiadau’r ymwelwyr yn newid?

 

dyfyniad-‘Rhwng 8fed Rhagfyr 2007 ac 8fed Rhagfyr 2008, ymwelodd 9 miliwn o bererinion â Lourdes ar gyfer dathliad 150 mlynedd yr ymddangosiadau’

Tua 25,000 o bobl y dydd mewn tref sydd â phoblogaeth o 17,000! Mae hyn fel petai 10 miliwn o bobl yn ymweld â Llundain mewn diwrnod. Ar ddyddiau prysur gall fod hyd at 100,000 o ymwelwyr yn Lourdes!



Astudiwch y tabl isod yn eich grwpiau ac yna ymatebwch i’r cwestiynau ar y Lòg Tystiolaeth:

Cyrchfan Poblogaeth Ymwelwyr y flwyddyn Nifer o welyau Gwelyau ymwelwyr y pen o’r boblogaeth leol
Lourdes 17,000 6,000,000 34,000 * 2.0
Blackpool 145,000 10,000,000 35,000 * .24
Efrog Newydd 8,200,000 50,000,000 90,000 ** .01



GWYBODAETH

Fel y buasech yn disgwyl ceir ystod o lety o fewn ac o gwmps tref Lourdes. Mae’r rhain yn cynnwys gwestai, fflatiau a gites (bythynnod), G a B a hostelau.

Ceir tua 33,700 o welyau gwag yn Lourdes

  • 208 gwesty gyda 26,400 o welyau
  • 5 preswylfa gyda 360 o fflatiau – 1,400 gwely
  • 11 gwersyllfa – 2,400 gwelyau/lleoedd gwag
  • 3,500 gwely mewn llety math hostel a llety crefyddol (a ddangosir yn y ddelwedd isod)

accommodation

 

Archwiliwch dref yn y DU gyda thua 17,000 o drigolion. Disgrifiwch yn gryno pa fath o lety sydd ar gael yn y dref.


Defnyddiwch y cyswllt i Swyddfa Bwrdd Croeso Lourdes isod er mwyn darganfod amrywiaeth y llety sydd ar gael. Rhowch eich barn ar y cyfleusterau a gynigir i bobl gydag anabledd ac eglurwch pam y maent yn bwysig. Cofnodwch eich darganfyddiadau ar y Lóg Tystiolaeth

Gall y bydd y gweithgareddau a wneir gan ymwelwyr crefyddol i Lourdes fod yn hollol wahanol i’r rhai gan ymwelwyr lan môr neu ar ffurf gonfensiynol arall o wyliau.

Religious Tourist Activities

Gan ddefnyddio’r delweddau uchod a gwybodaeth o’r wefan isod, meddyliwch am y gweithgareddau y gallai ymwelwyr crefyddol fod yn ymwneud â hwy.

Cymharwch weithgareddau tebygol ymwelydd crefyddol â rhai ymwelydd sydd ar wyliau glan môr a chofnodwch eich sylwadau ar y Lóg Tystiolaeth.