Smile

Effeithiau Twristiaeth a
Datblygiadau Cynaliadwy Effeithiau Twristiaeth Grefyddol - Lourdes



Pam y mae Lourdes yn apelio gymaint i’w ymwelwyr?

 
Slide 1
Slide 2
Slide 3
Slide 3
Slide 3
Example Frame


GWYBODAETH


Lourdes-ADDITIONAL_INFO_pdf.doc



GWEITHGAREDD 1 - Cyrchfannau deniadol
Sgrîn Llawn

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player



GWYBODAETH

Mae sawl rheswm pam fod pobl yn dewis teithio i wahanol gyrchfannau. Un ffactor ysgogol sy’n aml yn cael ei anghofio yw twristiaeth grefyddol. Yn wir, roedd twristiaeth grefyddol ar ffurf pererindodau yn un o’r ysgogyddion cynharaf i bobl deithio. Ledled y byd ac ar draws yr holl ranbarthau pwysig ceir cyrchfannau arbennig, sy’n denu miloedd lawer a hyd yn oed miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae’r holl ymwelwyr hyn angen cludiant o’u cartrefi i’w cyrchfannau a’u llety pan fyddont oddi cartref. Bydd llawer yn teithio gyda theuluoedd neu mewn grwpiau eraill. Ceir llawer o drefnwyr teithiau yn arbenigo mewn twristiaeth grefyddol a miloedd o arweinwyr teithiau ledled y byd yn darparu teithiau i adeiladau a safleoedd crefyddol.

Mewn rhai achosion, mae adeiladau crefyddol yn ffurfio atyniadau pwysig o fewn y prif ddinasoedd. Enghreifftiau fuasai Eglwys Gadeiriol San Paul ac Abaty Westminister yn Llundain, San Pedr yn Rhufain a Notre Dame ym Mharis. Er na fuasai’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn ymweld â’r cyrchfannau hyn yn benodol i ymweld ag adeiladau crefyddol, buasent yn rhan bwysig o nifer o deithiau ac yn ychwanegu at apêl y ddinas.

Fel gyda pob ffurf o dwristiaeth, mae twristiaeth grefyddol yn creu effeithiau o bwys ar y cyrchfannau lle y mae’n digwydd.





Sut le yw ardal Lourdes?


LÒG TYSTIOLAETH 1 : Lourdes - cyrchfan twristaidd

Edrychwch ar y cyflwyniad fideo ar Lourdes drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

http://www.lourdes-infotourisme.com/web/EN/325-videos-great-sites.php?gst

Ar ôl edrych ar y fideo crynhowch apêl ardal Lourdes fel cyrchfan twristaidd ar eich Lóg Tystiolaeth.

GWYBODAETH

Mae Lourdes yn dref o 17,000 o bobl, yn Ne Ffrainc yn odrefryniau Mynyddoedd y Pyreneau. Mae’r afon leol, a elwir yn ‘Gave de Pau’ yn hollti’r dref yn ddwy, y dref uchaf a’r dref isaf, lle ceir yr adeiladau crefyddol enwog. Mae’r dref yng nghysgod hen gastell ar frig creigiog.

Lourdes yw’r ail ddinas dwristaidd fwyaf poblogaidd yn Ffrainc a’r trydydd cyrchfan mwyaf poblogaidd yn y byd i bererinion Pabyddol. Mae tref Lourdes yn cynnig ystod mawr o lety amrywiol, tai bwyta a siopau cof-roddion i’r nifer fawr o ymwelwyr a phererinion sy’n ymweld bob blwyddyn.

Nid yw maes awyr Tarbes-Lourdes ond 10km i ffwrdd a daw â rhyw 40,000 o deithwyr y flwyddyn, yn bennaf o’r Eidal, Iwerddon a’r DU, yn ogystal ag o wledydd eraill Ewrop. Mae’r maes awyr yn rhoi mynediad rhwydd i nifer o fannau chwaraeon gaeaf ym Mynyddoedd y Pyreneau gerllaw, yn ogystal â hwyluso pererinion heddiw i gyrraedd Lourdes.

Mae modd hefyd cyrraedd Lourdes â thrên. Er 2000, gall pobl wael sy’n ymweld â Lourdes gael gofal o’r union adeg y maent yn gadael y trên hyd y byddant wedi eu trosglwyddo i ysbytai neu ganolfannau arbenigol eraill, gan ddefnyddio’r isadeiledd newydd.

Mae Lourdes hefyd mewn lleoliad ardderchog ar gyfer gweithgareddau adloniadol awyr agored. Mae rheilffordd halio yn arwain at dop copa Pic du Jer ,o’r fan y gwelir golygfeydd panoramig godidog o’r dref a’r cyffiniau o amgylch. Yn yr ardal o amgylch Lourdes ceir nifer o weithgareddau awyr agored megis heicio, beicio mynydd neu gaiacio.

Mae’r prif dymor i bererindota yn ymestyn o’r Pasg hyd at ddiwedd mis Hydref. Gydol y flwyddyn cynhelir offeren bob bore yn yr capeli, egwysi a basilicâu a’r cysegrfannau yn ogystal ag offeren am 11yh yn ystod tymor y pererindodau.

Information - Notice Boards

Yn ystod y prif dymor mae Gorymdaith y Cymun Bendigaid sy’n para awr, yn digwydd yn feunyddiol am 5yp.






Bob nos bydd gorymdaith yng ngolau ffaglau sy’n dod i ben ar y rhodfa o flaen y Basilique Notre Dame du Rosaire. Fe gludir delw o’r Forwyn Fair rhwng y ffaglau, a bydd y pererinion yn cludo canhwyllau wedi eu goleuo ac yn cerdded y tu ôl i faner y bererindod. Ar ddiwedd yr orymdaith fe’u gwahoddir i fynychu offeren olaf y noson.

Yng Ngorffennaf ac Awst cynhelir hefyd offeren ryngwladol i ieuenctid ddwywaith yr wythnos. Gwahoddir y pererinion i ddilyn camre Bernadette er mwyn dod i wybod beth yw ei neges o ffydd.

Rhwng 8fed Rhagfyr 2007 ac 8fed Rhagfyr 2008, ymwelodd 9 miliwn o bererinion â Lourdes ar gyfer pen-blwydd 150 yr ymddangosiadau. Ymwelodd y Pab Benoit XVI ym Medi 2008.