Nodweddion Iechyd a Diogelwch
Mae gan bob ystafell wely mewn Gwestai Copthorne nifer o nodweddion iechyd a diogelwch. Mae rhai o’r rhain yn ofyniad cyfreithiol ac mae eraill yn safon Copthorne.
Gweithgaredd 1
Awgrymwch pa fesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth allai fod yn ystafelloedd gwely’r Copthorne. Defnyddiwch ddelweddau a rhithdeithiau o wefan y gwesty i’ch helpu chi.
Mae 8 nodwedd a allai gael eu nodi. Ar gyfer pob un, awgrymwch pam maen nhw’n darparu diogelwch a gwarchodaeth ar gyfer gwesteion.

Gweithgaredd 2
Hefyd, mae nifer o ystafelloedd wedi cael eu dynodi’n ystafelloedd addasedig. Yn y gorffennol galwyd y rhain yn ystafelloedd yr anabl. Mae gan yr ystafelloedd hyn nodweddion diogelwch ychwanegol ar gyfer gwesteion ag anghenion arbennig.
Awgrymwch beth yw’r rhain.
Ar ôl cwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y clip fideo i ddangos yr amrywiaeth o nodweddion iechyd, diogelwch a gwarchodaeth mewn ystafelloedd safonol ac addasedig yng Ngwesty’r Copthorne (a eglurir gan Catherine Ingram, Rheolwr Cynorthwyol Cadw Tŷ yn y gwesty.)
Asesu Risg – Cadw Tŷ
Mae Gwesty’r Copthorne wedi nodi nifer o beryglon sy’n gysylltiedig â’r adran cadw tŷ.

Gweithgaredd 3
Defnyddiwch rithdeithiau a delweddau o wefan y gwesty i gael dealltwriaeth glir o natur amgylchedd ystafell wely mewn gwesty.
Awgrymwch weithrediadau a allai gael eu disgrifio fel perygl. Faint ohonyn nhw y gallwch chi eu hawgrymu?
Rhan o’r ymarfer asesu risg yw torri gorchestion i lawr i’w tasgau cydrannol a nodi’r perygl ar gyfer pob tasg.
Mae cyrff llwyddiannus, fel Gwesty’r Copthorne, yn rhagweld pob risg ac yn paratoi asesiad risg ar gyfer y gweithrediad, ni waeth pa mor ddibwys mae’n ymddangos. Mae enghreifftiau o asesiadau risg sy’n ymwneud â chadw tŷ yng Ngwesty’r Copthorne ar gael.
Gweithgaredd 4
Nodwch y peryglon a’r rheolaethau presennol ar y Ffurflen Asesu Risg ar gyfer glanhau ffenestri.