Ardal y Bar a Thrwyddedu
Mae'r bar yn gyfleuster pwysig mewn unrhyw westy pedair seren...”
“
Gweithgaredd 1
Gan ddefnyddio’r cyswllt gwe isod, ymchwiliwch i amcanion y deddfau trwyddedu cyfredol yn y DU sy’n rheoli gwerthiant alcohol yng Ngwesty’r Copthorne.
http://www.culture.gov.uk/what_we_do/alcohol_and_entertainment/4051.aspx

Ehangwch ar amcanion y ddeddfwriaeth gyfredol sydd wedi’u rhestru isod.
Amcanion Trwyddedu
Mae awdurdodau trwyddedu yn gweithredu yn unol â phedwar amcan trwyddedu, i sicrhau bod gweithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer yn cael eu gweithredu er lles y cyhoedd:
- Atal troseddu ac anhrefn
- Diogelwch y cyhoedd
- Atal niwsans cyhoeddus
- Diogelu plant rhag niwed
Gweithgaredd 2
Rhaid i bob sefydliad sydd eisiau gwerthu alcohol gael trwydded gan ei Awdurdod Trwyddedu lleol. Yn achos Gwesty’r Copthorne Cyngor Dinas Caerdydd yw hwnnw.
Ymchwiliwch i wefan Cyngor Dinas Caerdydd ac ysgrifennwch esboniad o’r mathau gwahanol o drwyddedau gwerthu alcohol y gellir eu cael.
Gweithgaredd 3
Cwblhewch Asesiad Risg ynghylch delio ag ymddygiad ymosodol tuag at staff.