Proses y Dderbynfa
Mae’r fideo isod yn dangos proses y dderbynfa yn y Copthorne.
“
...mae proses y dderbynfa yn y Copthorne yn gyswllt pwysig rhwng y gwesty a’r gwestai...”
Gweithgaredd 1
Astudiwch y rhestr isod o ddyletswyddau croesawydd gwesty.
Ar gyfer pob un, nodwch ac eglurwch yn llawn sut mae dyletswyddau’r croesawydd yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a gwarchodaeth gwesteion a gweithwyr y gwesty.
- delio ag archebion ystafelloedd drwy gyfrwng ffôn, e-bost, llythyr, ffacs neu wyneb yn wyneb
- cofnodi gwesteion wrth iddyn nhw gyrraedd ac ymadael, dyrannu ystafelloedd a rhoi allweddi
- paratoi biliau a derbyn taliadau
- derbyn a rhoi negeseuon i westeion
- delio â gofynion arbennig gan westeion (e.e. rhoi cyfarwyddiadau neu storio pethau gwerthfawr)
- ateb cwestiynau am gyfleusterau yn y gwesty a’r ardal o’i amgylch
- delio â chwynion neu broblemau.

Gweithgaredd 2
Aseswch rôl croesawydd y gwesty mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a gwarchodaeth gwesteion y gwesty.