Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Rheoliadau COSHH

Rhowch gynnig ar y tri gweithgaredd isod cyn ymchwilio i reoliadau COSHH a’r modd maen nhw’n berthnasol i Westy’r Copthorne.

Gweithgaredd 1

Beth mae COSHH yn ei gynrychioli yn y Saesneg?

Gweithgaredd 2

Mae’r tabl isod yn rhestru meysydd mewn gwesty fel y Copthorne lle mae sylweddau a all ddod o dan reoliadau COSHH yn debygol o fod. Yn yr ail golofn, gan ddefnyddio graddfa o 1 i 10, nodwch beth yn eich barn chi yw lefel y risg wrth weithio gyda’r sylweddau.

Trafodwch eich atebion gyda chydweithiwr.

Diffiniwch y termau canlynol:

  • Gwenwynig
  • Llidus
  • Cyrydol
  • Fflamadwy

Gweithgaredd 3

COSHH - cywir neu anghywir?

Bydd y cyswllt isod yn rhoi gwybodaeth amlinellol i chi am gwmpas (scope) a phwrpas rheoliadau COSHH.

http://www.hse.gov.uk/pubns/indg136.pdf

Gweithgaredd 4

Cwblhewch Asesiad Risg ynghylch defnyddio cemegion ar gyfer glanhau.

Gwefan gan Gwerin