Trosolwg
Mae Gwesty’r Copthorne Caerdydd wedi’i leoli ar gyrion Caerdydd, 4 milltir o ganol y ddinas ac 20 munud o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Mae gan y gwesty fwy na 100 o ystafelloedd gwesteion o gategorïau gwahanol yn cynnwys ystafelloedd a switiau. Hefyd, mae gan y gwesty le i fwy na 300 o gynrychiolwyr sy’n mynd i gyfarfodydd a chynadleddau mewn 10 ystafell gyfarfod o feintiau gwahanol.

Yn ystod yr wythnos, mae llawer o westeion y gwesty yn dwristiaid busnes, ond ar benwythnosau mae cyfran uwch o westeion hamdden. Mae’r gwesty’n gwasanaethu’r fasnach deithio drwy gynnig llety i grwpiau sy’n teithio mewn bysiau moethus ac mae’n gallu cynnig trosglwyddiadau i westeion i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer digwyddiadau mawr.
Mae cyfleusterau’r gwesty yn cynnwys y tŷ bwyta Raglan sydd wedi ennill gwobrau a swît iechyd a ffitrwydd le Club sy’n cynnwys pwll nofio a sba.
Y Theatr Fwyta yw un o bwyntiau gwerthu unigryw y gwesty. Mae’r cynnyrch hwn yn caniatáu i bobl sy’n aros yn y gwesty a phobl nad ydynt yn aros yno fwynhau pryd o fwyd gyda’r hwyr a chynhyrchiad theatr yn y gwesty am bris gosod.
Mae gan y Copthorne yr holl gyfleusterau y byddai gwesteion yn eu disgwyl mewn gwesty modern pedair seren. Fel pob darparwr llety, rhaid i’r gwesty sicrhau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth ei westeion a’i weithwyr bob amser.
Gweithgaredd 1
Llywiwch wefan y gwesty:
http://www.millenniumhotels.co.uk/copthornecardiff/index.html
Cyrchwch yr holl dudalennau ac edrychwch ar y delweddau a’r rhithdeithiau. Ar ôl gwneud hynny:
- Rhowch grynodeb o’r cynhyrchion, y gwasanaethau a’r cyfleusterau sy’n cael eu darparu gan Westy’r Copthorne, Caerdydd.
- Lluniwch ddadansoddiad SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd, Bygythiadau) ar gyfer y gwesty. Rhannwch a thrafodwch hyn gyda chydweithiwr.

Gweithgaredd 2
Mae’r wybodaeth ar y tudalennau canlynol yn cynrychioli gwybodaeth iechyd a diogelwch y mae angen i reolwyr gwestai wybod amdani.
![]() |
Gwybodaeth Gyffredinol am Iechyd a Diogelwch Gwesty |
(MS Word) | Gwybodaeth Gyffredinol am Iechyd a Diogelwch Gwesty |
Gan ddefnyddio’r Wybodaeth Gyffredinol am Iechyd a Diogelwch Gwesty, lluniwch a chyflwynwch gyflwyniad PowerPoint 10-12 tudalen sydd wedi ei anelu at reolwyr gwestai dan hyfforddiant fel rhan o broses sefydlu (induction).