Tu Allan - Symudiadau Cerbydau a Cherddwyr

Gweithgaredd 2
Nododd Asesiad Risg Symudiadau Cerbydau a Cherddwyr:
- 3 pherygl gwahanol sy’n gysylltiedig â symudiadau cerbydau a cherddwyr – faint ohonyn nhw y gallwch chi eu hawgrymu/nodi?
- 6 grŵp o bobl y gellid effeithio arnyn nhw – faint ohonyn nhw y gallwch chi eu hawgrymu/nodi?
- 8 rheolaeth bresennol wahanol – faint ohonyn nhw y gallwch chi eu hawgrymu/nodi?
Ar gyfer:
- Y difrifwch
- Y niferoedd yr effeithir arnyn nhw
- Y tebygolrwydd
- Y Ffactor Risg
nodwch a fydden nhw’n Uchel, Canolig neu Isel.