Pwll Nofio a Jacwsi
Gweithgaredd 2
Mae sbaon yn gallu bod yn niweidiol i iechyd os na chân nhw eu defnyddio mewn modd diogel. Gwyliwch y fideo byr o’r sba yng Ngwesty’r Copthorne.
Mae angen i weithredwyr sbaon mewn canolfannau pyllau nofio arddangos arwyddion rhybudd ac arweiniad i ddefnyddwyr.
Astudiwch y wybodaeth isod a chwblhewch y wybodaeth arweiniol drwy ychwanegu'r geiriau a’r ymadroddion o'r rhestr ganlynol:
cyffwrdd-ymledol | gwisgoedd | persawr | anhwylder ar y galon |
alcohol neu gyffuriau | chwys | 14 | colli lliw |
pwysedd gwaed | ymarfer | draed | 16 |
tymheredd y corff | 40 | cawod | deg ac ugain |
briwiau neu glwyfau | mynediad | raseli | deg i un deg pedwar |
ar eich pen eich hun | cyfog | pryd trwm | diabetig |
penysgafnder neu lewyg | benysgafn |
I gael sesiwn ddiogel a phleserus yn y pwll sba
dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Byddwch yn ymwybodol o’r canlynol:
- Gall tymheredd y sba fod uwchlaw 40˚C. (Gwiriwch a gwnewch yn siŵr fod y tymheredd yn gysurus i chi.).
- Ni ddylech ymdrochi am fwy nag 14 munud ar y tro ond gallwch wneud hyn eto yn ystod sesiwn. Po gynhesaf yw’r dŵr, lleiaf i gyd o amser y bydd angen i chi fod yn y pwll sba.
- Mae’r pwll sba yn cael ei weithredu gyda chyfnodau seibiant – rhaid i chi adael y pwll sba yn ystod y cyfnod hwn.
- Efallai y bydd rhai gwisgoedd yn colli lliw ar ôl bod yn y dŵr yn y pwll sba. Ni ddylech fynd o dan lefel y dŵr yn y sba gan fod perygl cael eich dal yno.
- Ni ddylech fynd â chwpanau sy’n gallu torri, na gwydrau na raseli i mewn i’r pwll sba.
Pobl na ddylent ddefnyddio’r pwll sba:
- Unrhyw un sydd ag afiechyd difrifol, neu anhwylder ar y galon, pwysedd gwaed uchel/isel neu unrhyw anhwylder meddygol arall a all effeithio ar ei ymateb i wres – cysylltwch â’ch meddyg gyntaf.
- Unrhyw un sy’n cymryd meddyginiaethau ar gyfer unrhyw un o’r anhwylderau uchod neu rai sy’n eich gwneud chi’n ansicr a ddylech ddefnyddio sba - cysylltwch â’ch meddyg gyntaf.
- Unrhyw un sydd â chlefyd cyffwrdd-ymledol, anhwylder croen sy’n heintus, briwiau neu glwyfau agored.
- Unrhyw un sydd wedi cael pryd trwm o fewn awr a hanner.
- Unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
- Person diabetig sydd â thraed briwedig neu niwropathi perifferol sy’n peri bod llai o deimlad yn ei draed.
- Unrhyw un sydd dan 16 oed.
- Os ydych wedi ymarfer yn ddiweddar (dylech bob amser sicrhau bod tymheredd y corff yn cael amser i ddychwelyd i’w lefel arferol).
Defnyddio’r sba yn ddiogel a pheryglon posibl:
- Peidiwch â defnyddio’r sba ar eich pen eich hun. Os yw’n bosibl, dewch â ffrind gyda chi a dylech bob amser wneud yn siŵr bod aelod o’r staff yn gwybod eich bod chi yn y sba.
- Newidiwch a rhowch eich eiddo mewn lle diogel.
- Dylech gael cawod trylwyr i glirio persawr, difwynwyr neu chwys.
- Nodwch y mynediad cywir i’r pwll sba (pan fo’r dŵr yn gynhyrfus efallai na fydd modd gweld grisiau).
- Ewch i mewn i’r sba yn ofalus. Os yw’n bosibl, eisteddwch ar ochr y pwll sba i fynd i mewn yn ddiogel.
- Mwynhewch y pwll sba am ddim mwy na deg i un deg pedwar munud neu hyd nes i chi deimlo’n anghysurus neu fod y sesiwn yn gorffen.
- Ewch allan o’r pwll sba yn ddiogel drwy symud yn araf a gofalu i roi eich traed yn gadarn ar y llawr (os gwnewch chi sefyll yn rhy gyflym gallech deimlo’n benysgafn neu deimlo eich bod yn mynd i lewygu). Os yw’n bosibl, codwch eich corff allan o’r sba ac eisteddwch ar ochr y pwll cyn sefyll.
- Dylech orffwys am rhwng deg ac ugain munud cyn dychwelyd i’r pwll sba.
- Gwnewch y broses eto gymaint o weithiau ag sy’n teimlo’n gysurus (gall fod yn y pwll ormod achosi cyfog, penysgafnder neu lewyg).
- Dylech gael cawod a gorffwys ar ôl cwblhau’r gylchred ymdrochi.
- Gadewch y sba ar unwaith os byddwch yn teimlo’n gyfoglyd neu’n benysgafn neu eich bod yn mynd i lewygu a rhowch wybod i aelod o’r staff cyn gynted ag sy’n bosibl.

Cliciwch y botwm uchod i wirio'ch atebion.