Dylunydd Goleuo

Mae dylunwyr goleuo yn gwybod sut i wneud y defnydd gorau o gyfrwng ysgafn a phwerus golau, gan greu effeithiau y gellir eu newid fel y mynnoch i gyfateb i naws yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan.

Ar y lefel fwyaf sylfaenol, gwaith goleuadau llwyfan yw sicrhau bod y gynulleidfa yn gallu gweld yr actorion a'u hamgylchedd. Ond gellir eu defnyddio hefyd i:

  • Greu'r naws briodol
  • Nodi'r adeg o'r dydd a'r lleoliad
  • Newid y pwyslais o un rhan o'r llwyfan i un arall
  • Atgyfnerthu arddull y cynhyrchiad
  • Gwneud i wrthrychau ar y llwyfan ymddangos yn wastad neu ar ffurf tri dimensiwn
  • Cymysgu'r elfennau gweledol ar y llwyfan yn un darn unedig

Taflen Waith Dylunio'r Goleuo:
Ymarferwyr / Cwmnïau Theatr / Arddulliau

Taflen Waith:
Ysgogiadau