Dylunio

Cyflwyniad:

Ar gyfer Uwch Gyfrannol a Safon Uwch mae opsiwn i ddewis sgiliau dylunio ar gyfer gwaith ymarferol. Mae pedair sgil y gallwch eu dewis:

  • Dylunio Set (gan gynnwys propiau)
  • Dylunio'r Goleuo
  • Dylunio Sain
  • Dylunio Gwisgoedd (yn cynnwys Colur a gwallt)

Mae'n bwysig cofio nad yw dylunwyr yn gweithio ar eu pen eu hunain. Bydd angen i chi weithio'n agos gyda'r actorion yn eich grŵp a dylunwyr eraill. Mae'n bosibl i'ch grŵp gynnwys actorion a dylunwyr set, goleuo, sain a gwisgoedd, felly bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â phob agwedd ar ddylunio cynhyrchiad.

Mewn grŵp lle ceir ond un dylunydd, sef chi, dylai pob un ohonoch fynd yn gyfrifol am y meysydd eraill. Felly, er enghraifft, os mai chi yw dylunydd y gwisgoedd mewn grŵp sy'n cynnwys tri actor, bydd pob un ohonoch yn gyfrifol am oleuo, sain a'r set.

Bydd y pedair adran isod yn eich tywys drwy'r pedwar maes dylunio. Mae'n syniad da ymgynefino â'r disgyblaethau nad ydych yn arbenigo ynddynt er mwyn datblygu dealltwriaeth fanylach o broses dylunio theatr.

ACTORION: Byddai'n fuddiol i chi dreulio peth amser hefyd ar yr adnodd hwn i ddatblygu gwerthfawrogiad o'r hyn y mae angen i'r dylunwyr yn eich grŵp ei wneud. Yn y ffordd hon, gallwch gydweithio'n fwy effeithiol i greu canlyniadau cyffrous.

Cysylltiadau â thudalennau gwahanol: