Dylunydd Goleuo

Dylunio'r Goleuo Manwl

Gwaith y Dylunydd

Mae'r dylunydd goleuo yn dechrau drwy ddarllen y sgript gan nodi'r math o olau sydd ei angen ym mhob golygfa. Mae'r dylunydd a'r cyfarwyddwr yn rhannu eu syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio golau i wella'r cysyniad cynhyrchu yn eu cyfarfod cyntaf. Mae cyfarfodydd cynnar â'r dylunydd set hefyd yn bwysig oherwydd mae'n rhaid i'r dylunwyr set a goleuo gydweithio i gyflawni'r "olwg" a ddymunir ar gyfer y ddrama. Gall y cynllun ar gyfer y set ddylanwadu ar leoliad a chyfeiriad yr offer goleuo angenrheidiol, felly mae tynnu sylw at unrhyw broblemau posibl yn y maes hwn mor gynnar â phosibl yn gwneud synnwyr.

Mae dylunwyr goleuo yn mynychu ymarferion er mwyn cael ymdeimlad o'r ciwiau goleuo ac er mwyn cynllunio sut i oleuo'r actorion wrth iddynt symud o un man i fan arall ar y llwyfan. Pan fydd y gwaith blocio ar y set wedi'i wneud, gall y dylunydd goleuo ddechrau gweithio allan pa offerynnau goleuo a gaiff eu defnyddio a ble y caiff pob un ei leoli.

Adnoddau cynllunio

Mae'r adnoddau cynllunio y mae dylunwyr goleuo yn eu defnyddio yn cynnwys:

  • Paentiadau a lluniau yn dangos naws ac arddull y technegau goleuo penodol ac fe'u cesglir drwy waith ymchwil
  • Plot goleuo: darlun wrth raddfa o'r llwyfan a'r set fel y'u gwelir o uchod gan ddangos cynllun arfaethedig pob golau a gaiff ei ddefnyddio
  • Cynllun goleuo: siart sy'n rhestru pob llusern ar wahân ynghyd â manylion y math o lusern, tanbeidrwydd, diben, lliw, safle ac ati.
  • Taflen ciwiau: rhestr gyflawn o'r effeithiau goleuo amrywiol a luniwyd gan y dylunydd ar gyfer y sioe a phryd maent yn digwydd.

Rheoli goleuadau

Mae pedair nodwedd y gall dylunwyr goleuo eu rheoli i greu casgliad eang o effeithiau:

  • Tanbeidrwydd (intensity) - disgleirdeb y golau. Gall popeth yn yr amrediad o'r lliw gwannaf i'r golau mwyaf llachar gael ei greu gyda goleuadau llwyfan. Mae cyferbyniad yn cael effaith fawr ar ba mor llachar y bydd golau'n ymddangos i'r gynulleidfa, gydag un fflacholau ar lwyfan sy'n dywyll fel arall yn ymddangos yn llachar iawn, ond gall sbotolau cryf yn disgleirio ar lwyfan sydd eisoes wedi'i oleuo'n llachar ymddangos yn wan.
  • Lliw. Pennir lliw gwrthrych ar lwyfan yn ôl pob golwg gan ei arlliw go iawn a chan olau'r golau sy'n ei oleuo. Mae hidlyddion neu geliau ar offerynnau goleuo yn ei gwneud yn bosibl i ddylunwyr ddefnyddio lliwiau mewn goleuadau llwyfan sy'n rhoi golwg well ar wynebau'r actorion, sy'n taflu golau cynnes dros set gyfan neu sy'n dwysáu lliwiau'r set a'r gwisgoedd.
  • Dosbarthu. Gall golau gael ei ddosbarthu mewn ffyrdd gwahanol ar lwyfan. Gall ffurf y golau amrywio o liw ysgafn diffocws i belydryn wedi'i ddiffinio'n glir sy'n taflu cysgodion dramatig. Gall y pelydryn golau o offer gael ei gyfeirio drwy ddarn o fetel a elwir yn gobo sy'n ei siapio yn batrwm, fel effaith doredig golau yn dod drwy ddail y coed. Gall golau gael ei gyfeirio hefyd at wrthych o unrhyw ongl, gan arwain at amrywiaeth ddiddiwedd o gyfuniadau o olau a chysgod, gyda golwg a theimlad gwahanol i bob un.
  • Symudiad. Gall tanbeidrwydd, lliw a dosbarthiad golau gael eu newid mor gyflym neu mor araf a mae'r dylunydd goleuo a'r cyfarwyddwr ei angen wrth i'r ddrama gael ei pherfformio, a hynny mewn ffordd amlwg. Er enghraifft, gall golygfa sy'n dechrau gyda golau gwasgaredig a gwridog y wawr orffen gyda phelydrau euraidd llachar golau llawn y bore. Gelwir y gallu hwn i newid dros amser yn symudiad golau. Mae'n cynnig rhyw fath o fynegiant hyblyg na all yr un o elfennau gweledol eraill y cynhyrchiad eu creu.

Awgrym Defnyddiol:

Peidiwch ag anghofio y bydd ymarferydd/ cwmni theatr neu arddull benodol yn dylanwadu ar eich dyluniad. Felly wrth ddarllen ac ymchwilio i'r sgript, meddyliwch sut y gellir cymhwyso confensiynau penodol eich dewis ymarferydd/cwmni theatr neu arddull yn effeithiol.

Ar gyfer darnau a ddyfeisir neu a ail-ddehonglir sicrhewch eich bod yn gwneud y confensiynau a'r technegau hyn yn rhan ganolog o'ch gwaith.

COFIWCH AM HYN O DDECHRAU EICH PROSES DDYLUNIO.