Dylunydd Goleuo

Llyfr Nodiadau ar y broses a Viva

Bydd angen i bob ymgeisydd gadw cofnod o'r broses. Bydd y cynnwys yn benodol o ran sgiliau.

Awgrymir y dylid cadw manylion y broses mewn ffolder cyflawn y gellir dewis deunydd ohono wedyn ar gyfer cyflwyniadau mwy penodol fel:

  • Cofnodion Creadigol
  • Gwerthusiadau

Gall y cynnwys gynnwys:

Yn gyffredin i BOB ymgeisydd dylunio ac actio:

  • ymchwil ar ffurf nodiadau
  • diagramau
  • ffotograffau
  • brasluniau
  • siartiau
  • delweddau gweledol
  • cyfryngau digidol, gan gynnwys recordiadau byr o adrannau o ymarfer neu ddeunydd sy'n briodol i'r maes sgiliau, e.e. clipiau sain. Ni ddylai'r rhain fod yn hwy na munud.

Yn benodol i DDYLUNIO'R GOLEUO:

  • tystiolaeth o ymchwilio i lusernau gwahanol, effeithiau ayb.
  • deunyddiau yn cynnwys: llusernau, gobos, effeithiau arbennig
  • lluniau o'r set/ gofod y llwyfan o dan gyflyrau goleuo gwahanol
  • samplau o geliau/ hidlyddion
  • rigio, ffocysu, gwybodaeth am blotio ayb.
  • fideos o newidiadau i gyflwr, clipiau o actorion yn gweithio o dan gyflyrau goleuo gwahanol ayb.
  • animeiddiadau o blotiau goleuo ar becynnau dylunio penodol

Viva

Dylai ymgeiswyr ddylunio, paratoi a gallu siarad am y canlynol:

Ymateb ar gyfer dewis o sbardunau gan gynnwys:

  • Ymatebion cychwynnol
  • Ysbrydoliaethau
  • Sut y gwnaeth y sbardunau a'r ARDDULL/ YMARFERYDD neu GWMNI THEATR ysgogi'r broses ddylunio

Trafod y TESTUN a'r dewis o ARDDULL / YMARFERYDD neu GWMNI THEATR gan gynnwys:

  • Elfennau allweddol yr arddull a ddewiswyd
  • Cymhwyso at sgil dylunio e.e. sut y gellir cymhwyso'r arddull/ ymarferydd neu gwmni theatr at y set, y goleuo, y sain neu'r gwisgoedd
  • Gwaith grŵp a chyfraniadau'r dylunydd
  • Datblygiad yn ystod ymarferion

Trafod yr hyn a DDYFEISIWYD a'r ARDDULL/ YMARFERYDD neu GWMNI THEATR a ddewiswyd gan gynnwys:

  • Elfennau allweddol yr arddull/ ymarferydd/ cwmni a ddewiswyd
  • Cymhwyso at sgil dylunio e.e. sut y gellir cymhwyso technegau'r ymarferydd/ cwmni at y set neu'r goleuo neu'r sain neu'r gwisgoedd
  • Gwaith grŵp a chyfraniadau'r dylunydd
  • Datblygiad yn ystod ymarferion

Elfennau dylunio penodol gan gynnwys, er enghraifft:

GOLEUO:

  • Anghenion y ddau ddarn
  • Defnydd o lusernau, tafluniad ac ati.
  • Defnydd o liw, safle, tanbeidrwydd
  • Dylanwadau ar arddull, ymarferydd/ cwmni

Y broses ddylunio gan gynnwys:

  • Addasu syniadau
  • Sut y gwnaeth y dyluniadau dyfu/ datblygu drwy'r broses ymarfer

Cysylltiadau clir rhwng
DYLUNIO
ac ARDDULL neu YMARFERYDD/ CWMNI
ac YSGOGIADAU

Asesir ansawdd y sgil dylunio yn ystod y perfformiad. Yn y viva, gall dysgwyr hefyd ddangos:

Set

  • Ffolder o'r dyluniad/gwaith cysyniadol - gallai hyn fod ar ffurf papur NEU electronig h.y. dyluniadau a gyflawnir drwy becyn dylunio;
  • Manylion llunio'r dyluniad ar bapur gan gynnwys e.e.:
    • rhestr ciwiau
    • plot crog
    • disgrifiadau LX
    • diagram rigio
    • nodiadau cysylltu
  • COPI PROMT neu sgript wedi'i hanodi ar gyfer ciwio sy'n cyfeirio at o leiaf 8 ciw gwahanol;
  • Tystiolaeth o'r broses e.e. samplau hidlyddion, samplau lliw, ymchwil;
  • Tystiolaeth o gydweithio â'r actorion e.e. nodiadau ymarfer, nodiadau cyfarfod cynhyrchu;
  • Tystiolaeth o wybodaeth effeithiol o'r bwrdd goleuo

POB UN yn berthnasol i'r dewis ymarferydd/ cwmni neu arddull ar gyfer pob darn.