Dylunydd Goleuo

Gofynion sylfaenol o ran y fanyleb

Gofynion sylfaenol

Dyma'r gofynion sylfaenol y bydd arholwr yn disgwyl eu gweld yn eich dyluniad goleuo.

Mae'r rhain yn berthnasol i:

CBAC: UG Uned 1
U2 Uned 3

Rhaid i Ddysgwyr dyluniad goleuo gynhyrchu dyluniad goleuo ynghyd â chynllun llawr o'r set/gofod gydag o leiaf 8 cyflwr gwahanol gan gynnwys:

  • lliwiau (e.e. hidlwyr, geliau, gobos gwydr)
  • tanbeidrwydd a hyd pyliadau
  • safleoedd llusernau (gyda chydnabyddiaeth glir o'r ardaloedd actio gwahanol)
  • defnyddio elfennau goleuo e.e. llusernau, gobos, drysau ysgubor, irisau, sgrolwyr, symudyddion, prismau, gobos â motor, defnydd o fideo (clyweledol)

Mae'r rhain yn berthnasol i:

TGAU Uned 1 a 2

    5 (4 uned 2) cyflwr gwahanol gan ddefnyddio enghreifftiau gwahanol o'r canlynol:

  • lliwiau
  • onglau
  • cryfderau
  • offer goleuo penodol (specials)