Y Grand Canyon yn Arizona, yn yr UDA yw un o atyniadau naturiol mwyaf eiconig y byd. Mae arwynebedd y canion tua 2,000 o filltiroedd sgwâr ac mae bron i 300 milltir o hyd. Mae hyd at 18 milltir o led a 5,000 o droedfeddi o ddyfnder mewn mannau. Siapiwyd y Grand Canyon gan yr Afon Colorado, sydd wedi torri i lawr drwy haenau o graig am dros filiwn o flynyddoedd. Mae llawer o ymylon y canion yn ddiffeithdir anhygyrch. Gall ymwelwyr gyrraedd y canion mewn dau brif le sef Parciau Cenedlaethol y South Rim a'r North Rim. Mae Rim y Gogledd dros 8,000 o droedfeddi uwch ben lefel y môr. Golyga hyn ei bod hi'n bwrw eira yn drwm yn y gaeaf, felly mae wedi cau am hyd at 6 mis y flwyddyn. Mae'r South Rim yn is (tua 7,000 troedfedd uwch ben lefel y môr) felly mae ar agor drwy'r flwyddyn.
Defnyddiwch adran Ffotograffau ac Amlgyfrwng gwefan Parc Cenedlaethol y Grand Canyon i weld y casgliadau 'Flickr'. Dewiswch hyd at 12 o luniau sydd yn eich barn chi yn adlewyrchu apêl y Grand Canyon. Paratowch gyflwyniad gan ddefnyddio meddalwedd addas i rannu eich sylwadau gyda'ch dosbarth.
http://www.nps.gov/grca/index.htm LÓG TYSTIOLAETH 1 - Apêl y Grand CanyonDefnyddiwch y Lòg Tystiolaeth i gofnodi eich sylwadau.