Bu datblygiad y Grand Canyon West a phrosiect y Skywalk yn ddadleuol mewn nifer o ffyrdd. Mae llawer o bobl wedi dadlau yn erbyn codi nodwedd mor amlwg sy'n edrych dros ymylon y Grand Canyon. Bellach mae pobl yr Hualapai mewn anghydfod parhaus gyda'r datblygwr sydd wedi ariannu'r prosiect, ac mae llawer o ymwelwyr yn cwyno eu bod wedi gorfod talu gormod.
Mae'r erthygl yma isod o bapur newydd yn rhoi syniad o'r problemau sydd wedi codi.
'Pan agorodd llwyth yr Hualwapai y Skywalk ar eu tir ar ymylon gorllewinol y Grand Canyon yn 2007, roedd gobaith y byddai'r bont llawr gwydr yn dod â llewyrch i'r llwyth bychan yng Ngogledd Arizona. Ond pedair blynedd yn ddiweddarach, mae'r llwyth yng nghanol anghydfod sy'n dwysáu gyda'r datblygwr ariannodd y prosiect ac sy'n rheoli'r atyniad.
Ceir cyhuddiadau o dorri'r contract a thramgwyddo ar y ddwy ochr. Ond mae'r ddwy ochr yn cytuno fod y Skywalk yn denu ymwelwyr.
Ar brynhawn yng nghanol yr wythnos, mae cannoedd o ymwelwyr yn aros eu tro i gerdded ar y bont wydr. Mae tywyswr sy'n cadw cofnod o'r ymwelwyr wedi cyfrif dros 1450 o ymwelwyr ar ei shifft. Yn 2010, daeth tua 620,000 i ymweld â'r Skywalk. Talodd pob un $29.99 am fynediad yn unig i'r Skywalk, a bydd llawer yn talu $27.99 yn ychwanegol i fynd â llun gartref gyda hwy. Daw'r rhan fwyaf mewn bws neu hofrennydd ar deithiau pecyn.
"Mae'n syfrdanol ac yn anhygoel," dywedodd Melissa Peck, ymwelydd o New Jersey wrth iddi edrych i lawr ar waelod y canyon, 4,000 o droedfeddi islaw.
Adeiladwyd y strwythur pan darodd y gŵr busnes o Las Vegas David Jin fargen gyda llwyth yr Hualapai. Byddai'n rhoi $30 miliwn i adeiladu'r Skywalk a Chanolfan Ymwelwyr, ac yn rheoli'r safle am y 25 mlynedd i ddilyn. Byddai'r elw yn cael ei rannu yn gyfartal rhwng cwmni Jin, Grand Canyon Skywalk Development, LLC, a chwmni'r llwyth, 'Sa' Nyu Wa. Ond erbyn hyn mae'r ddwy ochr yn dweud nad yw'r ochr arall yn cadw'u rhan o'r fargen. Prif gŵyn yr Hualapai's yw'r ganolfan ymwelwyr sydd heb ei gorffen.
Mae'r llinell o ymwelwyr yn ymdroelli drwy'r adeilad anorffenedig ar y ffordd i fynedfa'r Skywalk. Mae'r adeilad wedi'i orffen ar y tu allan, ond y tu mewn mae'n edrych fel safle adeiladu.
Mae aelod o Gyngor Llwyth yr Hualapai, Waylon Honga, yn sefyll o flaen bagiau o ddeunydd ynysu sy'n aros i gael eu gosod yn y ganolfan ymwelwyr anorffenedig.
"Does dim to, dim waliau mewnol. Mae'n un gofod mawr gwag," yn ôl Honga, wrth iddo gyffwrdd y gofod gwag sydd i fod i gynnwys tŷ bwyta a siop anrhegion i'r ymwelwyr. "Mae yna ffordd bell i fynd."
Mae Honga a gweddill y cyngor yn mynnu mai bai Jin yw'r gwaith adeiladu anorffenedig.
"Roedd y contract yn nodi fod angen i Mr Jin ymestyn y dŵr, y garthffos a'r llinellau trydan a chwblhau'r adeilad," yn ôl y cynghorydd. "A dydi hynny ddim wedi digwydd."
Mae Jin yn mynnu mai cyfrifoldeb y llwyth yw'r cyfleustodau.'
Lòg Tystiolaeth 2 - Prosiect y Grand Canyon West
Her 50 gair – Fedrwch chi grynhoi'r hyn sydd wedi digwydd yn Grand Canyon West mewn 50 gair neu lai? Defnyddiwch eich Lòg Tystiolaeth i gofnodi eich crynodeb.
Mae rhai o’r ymwelwyr â Grand Canyon West wedi bod yn siomedig iawn ac yn teimlo eu bod wedi talu gormod. Mae eraill wedi cael profiad da. A yw’r cyrchfan wedi llwyddo yn ei amcanion cynaliadwy neu a yw’r prosiect wedi mynd yn rhy fasnachol – mae’r cwestiwn yn dal heb ei ateb. Mae yna sawl adolygiad a sylwadau ynghylch datblygiad Grand Canyon West a’r Skywalk ar y rhyngrwyd. Er enghraifft, mae safleoedd fel You Tube a Trip Advisor yn cynnwys amrywiaeth o sylwadau.
Mae'r adolygiad isod yn gadarnhaol iawn.
‘Ar ôl ymweld â Grand Canyon West a phobl y Hualapai, edrych dros ymyl y canyon a phrofi’r cyffro o hedfan i’r llain lanio dros canyonlands prydferth Arizona, rhaid i mi ddweud fod y prisiau, sy’n ymddangos yn ddrud ar yr olwg gyntaf, yn werth yr arian pan fyddwch yn ystyried pwysigrwydd twristiaeth i bobl yr Hualapai.
Mae’r Skywalk a’r cyfleusterau i ymwelwyr yn Grand Canyon West yn cynrychioli breuddwyd y Llwyth am ddyfodol mwy sicr yn ariannol. Dim ond y tiroedd prydferth hyn sydd gan y Llwyth. Er mwyn gwneud arian, rhaid i’r Llwyth tlawd hwn ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio’r tir. Maent wedi penderfynu agor eu tiroedd a’u lletygarwch i’r byd a thrwy hynny sicrhau dyfodol iddynt eu hunain a’u plant. I mi, mae ymweliad â’r Grand Canyon West anarferol yn ychwanegiad da i wyliau yn y De-orllewin.’
Dydi hwn ddim!
‘Ar ôl treulio 3 awr yn gyrru o Las Vegas i’r Skywalk, cael ein hwynebu gan ffordd drol 9 milltir, fe gyrhaeddom y brif ganolfan; dyma lle mae’r ecsploetio llwyr yn dechrau! Rhaid talu o leiaf $50 y person am y pecyn rhataf, dim ond er mwyn gallu mynd ar y bws i’r skywalk. Pan ofynsom am y pris ar gyfer y bws i’r skywalk yn unig, dywedwyd nad oedd hynny’n bosibl. Bu’n rhaid i ni felly dalu mwy na’r angen am fotel o ddŵr yn eu siop a chymryd ein lwc gyda’r tocyn mynediad rhataf!
Roedd yna giw hir ar gyfer y Skywalk (oedd yn costio $30 mwy i bob person, hyd at $80+ y person erbyn hyn!) a doedd e yn ddim byd arbennig o gwbl, ac ar ben hynny, dydi nhw hyd yn oed ddim yn gadael i chi fynd â’ch camera! Eu hesgus oedd y gallwn fod wedi’i ollwng. Felly ein hunig ddewis oedd talu $30 am un o‘u lluniau hwy, DIM DIOLCH! Doedd yr olygfa ddim mor dda â hynny ac roedd yr un olygfa i’w gweld o’r ardal o gwmpas a hynny am ddim! Yn ogystal â bod y Skywalk yn siom fawr, roedd y pethau eraill y bu i ni eu trio mor ffug fel nad oedden hyd yn oed yn werth edrych arnynt..
Cadwch draw o’r Trap Ymwelwyr hwn a gwariwch eich arian ar rywbeth y byddech wir yn hoffi ei gofio!
Gellid disgrifio Ranch yr Hualapai fel atyniad ffug.
Sgrîn LlawnMae prosiect y Grand Canyon West a'r Skywalk wedi dod yn hynod o ddadleuol oherwydd yr anghydfod rhwng pobl yr Hualapai a'r datblygwyr. Ar yr un pryd, mae adolygiadau gwael am brofiad y Skywalk, prisiau uchel a'r anawsterau i gyrraedd y safle, wedi ychwanegu at y dadlau. Oherwydd y materion hyn, rhaid ystyried cynaliadwyedd Prosiect Grand Canyon West yn ofalus.
Mae llawer wedi'i ysgrifennu am yr anghydfod rhwng pobl yr Hualapai a'r datblygwyr a'r effaith ar y Skywalk a thirlun y Grand Canyon mewn sawl papur newydd a chylchgrawn yn yr UDA.
Ceir cysylltiadau i rai o'r erthyglau gwahanol isod.
http://www.desertusa.com/mag07/sept07/skywalk.html does-tribe-have-legal-right-to-seize-control-of-grand-canyon-skywalk http://writefunny.blogspot.com/2008/10/grand-canyon-skywalk.html http://www.examiner.com/day-trips-in-phoenix/visitors-guide-to-grand-canyon-west-and-the-skywalk http://www.latimes.com/la-na-skywalk11feb11,0,6435928.story http://www.csmonitor.com/2007/0410/p20s01-litr.html http://www.reuters.com/article/2012/03/18/us-arizona-grandcanyon-dispute-idUSBRE82H08O20120318Efallai y gallwch ddod o hyd i fwy o erthyglau diddorol drwy ddefnyddio chwilotwyr gwahanol.
Sgrîn Llawn