Smile

Effeithiau Twristiaeth a
Datblygiadau CynaliadwyGrand Canyon



Pa effaith a gafodd prosiect Gorllewin y Grand Canyon?
Gweithgaredd 2 - Parc Cenedlaethol y Grand Canyon
Sgrîn Llawn

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player



Gwybodaeth - Parc Cenedlaethol y Grand Canyon

Prif nod Prosiect y Grand Canyon West oedd agor ardal o'r Grand Canyon fyddai'n llawer agosach i Las Vegas. Byddai hyn yn galluogi mwy o bobl sy'n ymweld â Las Vegas i fynd i'r Grand Canyon ac yn ôl mewn un diwrnod. Mae'r Grand Canyon West, sydd wedi'i leoli o fewn yr Hualapai Indian Reservation, lai na 3 awr mewn car o Las Vegas, ond mae Parc Cenedlaethol y Grand Canyon gyda'i olygfeydd mwy trawiadol, ar ymylon deheuol y canion bron i 5 awr i ffwrdd mewn car. Golyga hyn nad oedd yn hawdd tan yn ddiweddar yrru i ymweld ag Ymylon De y Parc Cenedlaethol mewn un diwrnod o Las Vegas. Ond, gallai rhai ymwelwyr fforddio hedfan i'r Grand Canyon o Las Vegas mewn awyren fechan neu hofrennydd.

Las Vegas



Trafodwch gyda phartner pa gwestiynau y gallech eu gofyn a fuasai'n gymorth i roi atebion yn y gweithgaredd isod.

Gweithgaredd 2b - Dyma'r ateb - beth yw'r cwestiwn?
Sgrîn Llawn

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player




Gwybodaeth - Llwyth Indiaid yr Hualapai

Ar y dechrau roedd prosiect y Grand Canyon West i ddatblygu rhan o diroedd llwythol ym meddiant llwyth yr Hualapai (yn cael ei ynganu WAL-A-PAI) yn Arizona yn cael ei weld fel enghraifft dda o dwristiaeth gynaliadwy. Mae'r llwyth yn byw mewn ardal gras o 'diroedd canion' De Orllewin yr UDA sy'n cynnwys rhan o'r Grand Canyon. Roedd gan y llwyth amodau byw gwael a lefelau uchel o ddiweithdra. Gwelwyd prosiect y Grand Canyon West fel modd o ddatblygu rhan o diriogaethau'r llwyth ar gyfer twristiaeth fel modd o greu incwm a chynnal ffordd o fyw traddodiadol yr Hualapai. Ffurfiodd llwyth yr Hualapai bartneriaeth gyda gŵr busnes o Las Vegas, David Jin, a ariannodd ddatblygiad Grand Canyon West. Nodwedd fwyaf uchelgeisiol y prosiect oedd adeiladu'r Skywalk, i alluogi ymwelwyr i gerdded ar lawr gwydr uwch ben y Grand Canyon ac edrych ar yr Afon Colorado islaw. Cyflogwyd pobl leol, aelodau o lwyth yr Hualapai, mewn amryw o swyddi, gan gynnwys gyrwyr bysys, asiantwyr gwasanaeth cwsmer ac fel tywyswyr. Y bwriad oedd buddsoddi'r incwm a ddeuai o ymweliadau ymwelwyr i ddatblygiad y Grand Canyon West a'r Skywalk yng nghenedl y Hualapai.


Hualapai nation


Gweithgaredd 3 - Eich sylwadau
Sgrîn Llawn

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player



A yw prosiect Gorllewin y Grand Canyon yn gyrchfan cynaliadwy?
 

Edrychwch ar y lluniau a thrafodwch gyda phartner os oedd y prosiect yn dangos unrhyw nodweddion cynaliadwy ai peidio.



Sustainable features





GWYBODAETH

Gellid dadlau fod gan y syniad gwreiddiol o Grand Canyon West nifer o nodweddion cynaliadwy. Roedd y rhain yn cynnwys:-

Cynaliadwyedd economaidd

Mae pobl yr Hualapai wedi elwa'n economaidd mewn nifer o ffyrdd. Maent wedi cael eu cyflogi fel gyrwyr, yn y siopau, y ffreutur ac mewn lleoliadau eraill o fewn datblygiad Grand Canyon West. Hefyd, mae merched llwyth yr Hualapai wedi gallu cynhyrchu a gwerthu gemwaith traddodiadol i lawer o'r ymwelwyr sydd wedi ymweld â'r safle.

Cynaliadwyedd ecolegol

Mae'r Hualapai wedi cytuno mai dim ond cyfran fechan o'u tiroedd fydd yn cael eu datblygu ar gyfer ymwelwyr, tua 7,000 allan o 100,000 milltir sgwâr. Ni fydd gweddill y tir yn cael ei ddatblygu ac felly caiff ei amddiffyn a bydd y cydbwysedd ecolegol yn cael ei gynnal.

Cynaliadwyedd lleol

Un o fanteision yr incwm sy'n cael ei dderbyn gan yr ymwelwyr yw bod yr Hualapai wedi gallu buddsoddi mewn prosiectau ar gyfer pobl ifanc y llwyth, gan helpu i sicrhau eu bod yn aros o fewn y llwyth yn hytrach na gadael i chwilio am waith rywle arall. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys clybiau ar gyfer pobl ifanc a chyfleusterau cymdeithasol eraill. Mae'n bwysig deall fod gan fwyafrif o'r Hualapai safon byw isel iawn gydag ychydig o wasanaethau cyn datblygiad y Grand Canyon West.

Cynaliadwyedd diwylliannol

Mae ymwelwyr â datblygiad y Grand Canyon West wedi gallu dysgu llawer am ffordd o fyw traddodiadol llwythau Cynhenid Americanaidd megis yr Hualapai. Codwyd adeiladau traddodiadol ac mae'r llwyth yn perfformio dawnsfeydd a cherddoriaeth ar gyfer yr ymwelwyr, gan gynnal y diwylliant.



Gweithgaredd 4 - Nodweddion cynaliadwy - Ydych chi wedi'i deall hi?
Sgrîn Llawn

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player



Gweithgaredd 5 - Gwerthu cofroddion - da neu wael?
Sgrîn Llawn

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player