
Mae Geoparc Fforest Fawr wedi ei leoli yng nghanol De Cymru ac yn ffurfio hanner gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fel yr ydych wedi gweld, ychydig iawn o ddatblygu sydd o fewn y Geoparc ac mae llety i ymwelwyr yn gyfyngedig. Mae arolygon a ymgymerwyd gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dangos mai pobl sy'n byw yn weddol agos at y Geoparc yw'r mwyafrif o ymwelwyr.
Mae'r cyswllt isod yn rhoi gwybodaeth am sut y gall ymwelwyr fynd i'r Geoparc.
http://www.geoparcyfforestfawr.org.uk/ble-maer-geoparc/
Lóg Tystiolaeth 5 – Cyrraedd y Geoparc
Cwblhewch y tabl ar y Lóg Tystiolaeth drwy feddwl am fanteision ac anfanteision mynd i'r Geoparc ar bob un o'r pedwar math o gludiant y soniwyd amdanynt uchod. Defnyddiwch y cysylltiadau a roddir yn yr uned hon am fwy o wybodaeth. O safbwynt bob un o'r mathau o gludiant, meddyliwch am ei effeithiau ac am egwyddorion twristiaeth gynaliadwy.
