Smile

Effeithiau Twristiaeth a
Datblygiadau Cynaliadwy Geoparc Fforest Fawr



Sut y gellir rheoli effeithiau twristiaeth?
 
Slide 1

Slide 2

Slide 3

Slide 4

Slide 5

Example Frame

Gweithgaredd 2 – Diffinio Twristiaeth Gynaliadwy
Sgrîn Llawn

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player



A fedrwch chi feddwl am unrhyw ddatblygiad neu weithgaredd twristaidd yn eich ardal leol sy'n cydfynd / sydd ddim yn cydfynd â'r meini prawf a welir yn y diffiniad uchod? Trafodwch o fewn eich grwpiau.


GWYBODAETH

Gan ei fod o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae'n rhaid i'r Geoparc ddilyn a chytuno â'r syniad o gefnogi twristiaeth gynaliadwy. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gweithio â'r Parciau Cenedlaethol eraill yng Nghymru, (Arfordir Penfro ac Eryri) i gytuno ar strategaeth gyffredin tuag at dwristiaeth gynaliadwy.

Mae'r ddogfen 'Datganiad Sefyllfa' a geir yn http://www.nationalparkswales.gov.uk/__data/assets/pdf_file/0016/352510/twristiaeth_gynaliadwy._datganiad_seffyllfa-2.pdf yn crybwyll pedwar ffactor pwysig sy'n gyrru'r datblygiad o dwristiaeth gynaliadwy o ddifrif o fewn y Parciau Cenedlaethol:

1. Amddiffyn ardaloedd o dawelwch, erydiad amgylcheddol a phwysau ar isadeiledd o waith dyn a adeiladwyd yn wreiddiol ar gyfer poblogaethau bychain.

2. Datrys problemau cludiant – allyriannau carbon o gerbydau, ymyrraeth neu ddifrod a achosir gan nifer y cerbydau sy'n uwch na gallu lleoliadau penodol i'w cynnal, materion parcio, codi tâl am fynediad neu barcio, prinder cael mynediad ar gludiant cyhoeddus mewn sawl ardal.

3. Lleihau effeithiau negyddol datblygiad ar raddfa fawr, yn cynnwys aflonyddu cymunedau lleol, colli gwasanaethau lleol a cholli rhywfaint o nawdd drwy ei drosglwyddo o weithredwyr bychain lleol i gynnal datblygiadau ar raddfa fwy.

4. Datrys gwrthdrawiadau, rhai real a chanfyddedig, rhwng dibenion y Parc Cenedlaethol a gweithgareddau cysylltiedig â thwristiaeth. Mae natur twristiaeth ardal wledig agored ac arfordirol yn gwneud rhai gweithgareddau'n anodd iawn i'w rheoli'n uniongyrchol. I fod yn gynaliadwy, mae gallu ardal i gynnal gweithgaredd angen ei ystyried gan dwristiaeth a chwmnïau sy'n weithredol.



Lóg Tystiolaeth 3 - Ailysgrifennu'r 4 ffactor

Ailysgrifennwch y pedwar ffactor uchod yn osodiadau syml. Cofnodwch eich gosodiadau ar y Lóg Tystiolaeth.