Sgrîn Llawn
Trafodwch y rhwystrau, yn eich barn chi, a fedrai atal y datblygiadau hyn rhag digwydd. A fedrwch chi awgrymu syniadau eraill ar gyfer y datblygiadau addas?

Mae technolegau newydd wedi cyflenwi sefydliadau teithio a thwristaidd â dulliau newydd o rannu gwybodaeth a chyfathrebu â'u cwsmeriaid. Mae'r ffonau smart diweddar a dyfeisiadau eraill wedi galluogi ymwelwyr dderbyn gwybodaeth tra maent yn ymweld ag atyniad neu'n cymryd rhan mewn gweithgaredd.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi datblygu ystod o ffyrdd y gellir darparu gwybodaeth i ymwelwyr drwy eu gwefan. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Podlediadau
- Llwybrau llafar
- Gwe-gamerau
- Porydd y Parc
Yn fwyaf arbennig, mae Porydd y Parc yn ddatblygiad pwysig iawn, gan y gall mapiau cywir a'r wybodaeth ddiweddaraf gael eu derbyn gan ymwelwyr ar eu ffonau clyfar, ipadiau, ayyb. Gellir cael gwybodaeth am y datblygiadau hyn ar y cyswllt isod
http://www.bannaubrycheiniog.org/ymweliadau/mynediad-haws/llwybrau-llafar-a-phodlediadau/
Lóg Tystiolaeth 4 - Cyfathrebu â'r ymwelwyr
Ystyriwch y pedwar dull o gyfathrebu a restrir uchod. Ar gyfer pob dull nodwch y manteision ar gyfer ymwelwyr ac awgrymwch unrhyw broblemau a all godi. Nodwch eich sylwadau ar y log tystiolaeth.





