Sgrîn Llawn
Lóg Tystiolaeth 1 - Geoparc Fforest Fawr
Mae'r cyswllt isod yn darparu cwestiynau ac atebion am Geoparc Fforest Fawr.
http://www.geoparcyfforestfawr.org.uk/amdanom-ni/cwestiynau-a-ofynnir-yn-aml/
Gan ddefnyddio'r cyswllt uchod, ychwanegwch eich atebion chi at y cwestiynau ar y Lóg Tystiolaeth. Ar gyfer pob ateb, dylech ysgrifennu un frawddeg o 12 gair neu lai.
Mae sawl gwlad bellach wedi sefydlu Parciau Cenedlaethol, sy'n ardaloedd lle mae'r tirlun yn cael ei ddiogelu a'i gadw ar gyfer twristiaeth ac adloniant. Mae geoparciau yn canolbwyntio mwy ar warchod daeareg yr ardal a hyrwyddo dealltwriaeth o'r creigiau sy'n gwneud y tirlun.
Bydd y cyswllt isod yn rhoi mwy o wybodaeth am y syniad o Geoparciau.
http://www.geoparcyfforestfawr.org.uk/amdanom-ni/rhwydwaith-geoparciau-ewrop/
Mae'n bwysig deall fod y rhan fwyaf o bobl (ymwelwyr a phobl leol) yn dod i'r ardal i chwilio am heddwch a thawelwch yn eu horiau hamdden yn ogystal ag i werthfawrogi'r tirlun.
Dyna pam fod yr ardal yn cael ei marchnata gyda'r slogan: 'Atyniad mwyaf y Geoparc yw'r tirlun ei hun.'
Ceir gwybodaeth ar sut i fwynhau Geoparc Fforest Fawr yn y cyswllt isod. Cofiwch mai datblygiad cymharol ddiweddar yw Geoparc, ac felly bydd modd ychwanegu mwy o wybodaeth yn y dyfodol.
http://www.geoparcyfforestfawr.org.uk/mwynhau/ Lóg Tystiolaeth 2 – Cynllunio ymweliad undydd i'r Geoparc
Mae'r cyswllt isod yn rhoi gwybodaeth bellach am weithgareddau posibl mewn rhannau gwahanol o Geoparc Fforest Fawr. Bydd hyn yn arbennig ar gyfer pobl sy'n byw yn y cyffiniau ac am dreulio dydd yn y Geoparc.
Gan ddefnyddio cyswllt:
http://www.geoparcyfforestfawr.org.uk/mwynhau/lleoedd-i-fynd-iddynt/
Dewiswch dair o'r ardaloedd a enwir a lluniwch deithiau ar gyfer ymweliad undydd i'r Geoparc, o bosib yn cychwyn o'ch cartref. Defnyddiwch y grid a ddarperir ar y Lóg Tystiolaeth fel canllaw ar gyfer cofnodi eich gwaith.
GWYBODAETH YCHWANEGOL - Apêl y Tirluniau Naturiol



