Parc Cenedlaethol Eryri – Rheoli Ymwelwyr
Gweithgaredd 1

Astudiwch y wybodaeth am gynllun y Bysiau Sherpa a mathau eraill o gludiant cyhoeddus sydd ar gael yn ardal Eryri.
www.eryri-npa.gov.uk/visiting/travel-snowdonia
Eglurwch pam mae darparu mathau eraill o gludiant yn hytrach na cheir preifat:
- yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd;
- yn lleihau risgiau i bobl sy’n ymweld ag Eryri.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ar gyfer pobl sy’n ymweld â’r ardal sy’n helpu i leihau risgiau. Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
- Gwybodaeth ar wefan yr Awdurdod, gyda pheth ar gael i’w lawrlwytho
- Arwyddion yn y meysydd parcio
- Canolfannau Croeso
- Wardeniaid
Gwybodaeth ar y wefan
Nid yw rhoi cyngor ynghylch diogelwch a lleihau risg i ymwelwyr yn dechrau pan fydd person yn mynd i mewn i’r Parc Cenedlaethol neu’n dechrau ar daith gerdded. Un o fanteision y rhyngrwyd yw y gellir rhoi cyngor ac arweiniad manwl i ymwelwyr posibl cyn iddyn nhw ddechrau ar eu taith i’r ardal.
Gweithgaredd 2
www.eryri-npa.gov.uk/visiting/walking/snowdon
Gan ddefnyddio’r cyswllt uchod, ymchwiliwch i’r wybodaeth am y 6 phrif lwybr troed i gopa’r Wyddfa.
- Lluniwch gyflwyniad yn amlinellu prif nodweddion pob llwybr troed, gan nodi’r risgiau posibl.
- Awgrymwch rannau eraill o wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a allai roi gwybodaeth ddiogelwch bwysig i bobl sy’n dymuno cerdded yn y mynyddoedd.
Arwyddion yn y meysydd parcio
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi darparu arwyddion sy’n helpu ymwelwyr i’w cyfeirio’u hunain pan fyddan nhw’n mynd i mewn i’r Parc.
Mae Alun Gruffydd, Pennaeth Addysg a Chyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn egluro sut mae paneli dehongli yn helpu ymwelwyr i ymgyfarwyddo â’r dirwedd.
Darperir gwybodaeth fwy manwl ar ddechrau pob un o’r 6 phrif lwybr troed sy’n arwain at gopa’r Wyddfa.
Gweithgaredd 3
Crynhowch y prif resymau dros ddarparu paneli gwybodaeth yn y meysydd parcio o amgylch yr Wyddfa.