Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Parc Cenedlaethol Eryri – Cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch

...mae’r sefyllfa gyfreithiol rywfaint yn wahanol i’r sefyllfa ar gyfer cyrff eraill....”

Gweithgaredd 1

Gan weithio gyda phartner, awgrymwch beth, yn eich barn chi, yw cyfrifoldebau Awdurdod y Parc Cenedlaethol tuag at bobl sy’n ymweld ag Eryri.

...cyfrifoldeb yr Awdurdod yw sicrhau bod ei wybodaeth yn fanwl gywir...”

Gweithgaredd 2

Yn y panel isod mae enghraifft o ysgrifennu Saesneg sy’n anodd ei ddeall ac y gellid ei symleiddio.

Ysgrifennwch fersiwn a fyddai’n gliriach ac yn haws ei ddeall. Ar ôl i chi orffen eich fersiwn chi, cliciwch ar y panel isaf i weld y fersiwn a ddefnyddiwyd mewn gwirionedd.

‘Despite the challenging weather conditions, my first ascent to the summit of Snowdon was most exhilirating. My companion, David, had recently purchased a new pair of walking boots from a reputable retailer and he stated that they offered wonderful cushioning compared to his previous pair.’

Eich fersiwn chi:

Nid yw darparu gwybodaeth glir a manwl gywir ar gyfer ymwelwyr bob amser mor hawdd ag y mae’n ymddangos ar y cychwyn. Mae angen i’r wybodaeth fod yn glir ond heb ddefnyddio gormod o eiriau.

Gweithgaredd 3a

Astudiwch y wybodaeth yn y delweddau sy’n dangos gwybodaeth a gymerwyd o baneli dehongli ar gyfer Llwybr y Mwynwyr a Llwybr Pyg. Mae’r ddau lwybr yn dechrau o faes parcio Pen-y-Pass.

Cymharwch a gwerthuswch y wybodaeth a roddir ar y ddau banel.

Efallai yr hoffech chi ymweld â’r wefan i gael rhagor o wybodaeth:

www.eryri-npa.gov.uk/visiting/walking/snowdon

Gweithgaredd 3b

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rhoi cyngor ynghylch diogelwch mewn ardaloedd mynyddig mewn nifer o ffyrdd.

Un o’r rhain yw cyfres o ddarnau syml o gyngor sydd i’w gweld ar y paneli dehongli ar ddechrau pob llwybr i gopa’r Wyddfa.

Rhoddir gwybodaeth dan y penawdau canlynol: Cynllunio, Gwirio, Gwisgo a Cario. Rhoddir y wybodaeth mewn llai na 70 o eiriau!

Ysgrifennwch eich fersiwn chi o’r wybodaeth a fyddai, yn eich barn chi, yn cael ei darparu dan bob un o’r penawdau hyn, gan gadw at yr un terfyn o ran nifer y geiriau.

Safety

Cliciwch ar y botwm uchod i weld union eiriad y byrddau dehongli.

Gweithgaredd 3c

Dyluniwch boster sy’n rhybuddio cerddwyr rhag peryglon cerdded ar y mynyddoedd yn y gaeaf.

Cliciwch ar y botwm isod i gymharu eich poster chi â’r poster mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi’i ddylunio. Gwerthuswch y ddau boster.


Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyflogi nifer o wardeniaid i reoli ymwelwyr yn y meysydd parcio ac ar y llwybrau troed ac i gynnig cyngor. Mae Alun Gruffydd yn egluro rôl allweddol y wardeniaid yn y meysydd parcio.

...they can't physically force people to turn back...”

Gweithgaredd 4

Gan ddefnyddio’r cyswllt isod, nodwch ffyrdd mae gwaith y warden mynydd yn gysylltiedig â diogelwch pobl sy’n ymweld ag Eryri.

www.eryri-npa.gov.uk/education/introduction/looking-after-snowdonia/a-mountain-warden

Hefyd mae’r Awdurdod wedi cynhyrchu fideo sy’n rhoi gwybod i ymwelwyr am baratoi’n iawn ar gyfer cerdded yn Eryri yn ystod misoedd y gaeaf.

www.eryri-npa.gov.uk/visiting/authority-videos

Gweithgaredd 5

Gwerthuswch effeithiolrwydd y wybodaeth a roddir yn y fideo.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn trefnu amrywiaeth o deithiau cerdded a gweithgareddau eraill drwy ei ganolfan astudio ym Mhlas Tan y Bwlch. Os ydy Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn darparu gweithgaredd ar gyfer y cyhoedd, mae lefel ei gyfrifoldeb yn cynyddu’n sylweddol.

Mae Alun Gruffydd yn egluro’r sefyllfa.

......”

Yn y darn isod, mae Alun yn crynhoi’r berthynas gyfreithiol rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r ymwelwyr sy’n dewis cerdded yn ardal yr Wyddfa.

...it's important that we identify clearly which are official footpaths offering suitable access...”

Gweithgaredd 6

Mae Alun yn cyfeirio at yr angen i ‘gydbwyso risg a mynediad (access)’. Eglurwch y gosodiad hwn.