Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Cyflwyno Parc Cenedlaethol Eryri

...wyth can milltir sgwâr o dirwedd amrywiol....”

Gweithgaredd 1

Gan ddefnyddio’r gwefannau isod, crynhowch apêl Parc Cenedlaethol Eryri i fathau gwahanol o dwristiaid.

www.snowdonia-wales.net

www.star-attractions.co.uk

www.eryri-npa.gov.uk


Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r Parc Cenedlaethol. Fel y mae yn y Parciau Cenedlaethol i gyd yn y DU, nid yw’r Awdurdod yn berchen ar lawer o’r tir, ond mae’n gyfrifol am reoli’r dirwedd a gofalu am fuddiannau’r cymunedau sy’n byw o fewn ffiniau’r parc.

Gweithgaredd 2a

Defnyddiwch y cyswllt isod i egluro prif gyfrifoldebau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

www.eryri-npa.gov.uk/conserving

Gweithgaredd 2b

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn casglu data am wahanol weithgareddau yn y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys twristiaeth. Astudiwch yr adran ar dwristiaeth yn yr adroddiad a welir yn y cyswllt isod.

www.eryri-npa.gov.uk/__data/assets/pdf_file/0018/25524/state_of_the_park_report_2009.pdf

Defnyddiwch y wybodaeth i nodi 5 prif duedd mewn twristiaeth yng nghyfnod yr astudiaeth.

Gweithgaredd 2c

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rheoli’r Parc yn rhannol drwy lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’r Cynllun Rheoli cyfredol ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri i’w weld yn y cyswllt isod.

www.nationalparks.gov.uk/eryri2010/snpa_mp_2010/

Eglurwch pam mae’n bwysig i gyrff fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri lunio cynlluniau rheoli manwl.