Parc Cenedlaethol Eryri – Gweithio gyda Chyrff Eraill
Gweithgaredd 1
Gwnewch chwiliad Google ar gyfer ‘Cerdded yn Eryri’. Caiff llawer o wefannau eu rhestru.
Lluniwch dabl yn rhestru tua 20 o’r gwefannau cyntaf sydd i’w gweld ac yn crynhoi natur y gwefannau hynny. Efallai y bydd y gwefannau a restrir yn cynnig gwyliau cerdded, cyfarpar ar werth, llety ac yn y blaen.
‘Heriau’
Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cynnydd ym mhoblogrwydd campau eithafol fel ‘heriau’ lle mae pobl yn ymgymryd â’r her o ddringo nifer o fynyddoedd, efallai o fewn cyfnod penodol. Yn aml, caiff pobl sy’n cymryd rhan eu noddi a byddan nhw’n codi arian ar gyfer elusen benodol. Mae pobl eraill yn mwynhau campau eithafol a’r cyfle i brofi eu sgiliau a’u dygnwch. Nid yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymwneud â’r digwyddiadau hyn yn uniongyrchol, ond efallai yr effeithir ar geidwaid a grwpiau eraill.
Rhestrir isod nifer o wefannau sy’n cynnwys heriau o’r fath, ynghyd â chyswllt â nifer o glipiau YouTube.
www.ldwa.org.uk/ldp/members/show_path.php?path_id=418
www.actionforcharity.co.uk/eventdetailsnew.asp/urlsearch/Snowdonia-Charity-Challenge
www.dailymail.co.uk/news/article-1191286/Helicopter-hunt-runners-storm-hits-Snowdonia-race.html
news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7924562.stm
www.youtube.com/watch?v=AfCSYN-I-aQ&feature=related
Gweithgaredd 2
Ar ôl astudio’r gwefannau a’r clipiau yn ofalus, paratowch ddadl o blaid ac yn erbyn cael heriau o’r fath yn digwydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. O ran y ddadl ‘yn erbyn’, ystyriwch y safbwynt iechyd a diogelwch yn ofalus.
Gweithgaredd 3a

Defnyddiwch y cyswllt isod i grynhoi gweithgareddau Tîm Achub Mynydd Llanberis.
www.llanberismountainrescue.co.uk/English/LLMRT HomePage.html
Gweithgaredd 3b
Gan ddefnyddio’r adran Digwyddiadau yng ngwefan Tîm Achub Mynydd Llanberis, lluniwch ddadansoddiad manwl o’r digwyddiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod dewisol.
www.llanberismountainrescue.co.uk/English/Previous.php
Gweithgaredd 3c
Bydd dadl bob amser ynghylch p’un ai y dylid gadael i bobl gael mynediad ai peidio i ardaloedd mynyddig fel yr Wyddfa, yn enwedig yn y gaeaf. Yn yr un modd ag y mae rhai pobl yn mwynhau heriau dringo’r mynyddoedd, mae eraill yn mwynhau’r golygfeydd trawiadol y gellir eu gweld mewn ardaloedd mynyddig fel Eryri yn y gaeaf.
Bydd y cysylltau isod yn dangos y ddadl ynghylch cael mynediad i’r mynyddoedd yn y gaeaf. A ddylid cyfyngu ar fynediad i’r mynyddoedd yn ystod tywydd gwael? Sut y gellir monitro mynediad? A ddylai Timau Achub Mynydd barhau i gael eu staffio gan wirfoddolwyr?
www.ukclimbing.com/articles/page.php?id=1575
www.telegraph.co.uk/topics/weather/4433875/Snow-Britain-Two-climbers-killed-on-Mount-Snowdon.html
www.youtube.com/watch?v=SLUd30WstWw&feature=related
Ar ôl astudio’r erthyglau uchod, aseswch y ddadl o blaid cyfyngu ar fynediad i ardaloedd mynyddig fel yr Wyddfa yn ystod cyfnodau o dywydd gwael.