Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

Gweithgareddau Tir

Mae Sealyham yn cynnig dewis o 5 gweithgaredd tir:

  • Llwybr rhaffau
  • Dringo
  • Saethyddiaeth
  • Cerdded bryniau
  • Hyfforddiant goroesi

Gweithgaredd 1

Paratowch gyflwyniad o’r pum gweithgaredd tir sy’n cael eu darparu yn Sealyham. Ar gyfer pob un o’r pum gweithgaredd:

  • rhowch ddisgrifiad byr o’r gweithgaredd
  • dewiswch ddelweddau priodol o’r banc delweddau i ddangos y gweithgaredd
  • nodwch y peryglon posibl sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd

Mae’r clogwyni ar Arfordir Sir Benfro yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer dringo creigiau.

Gweithgaredd 2

Cwblhewch y tabl o beryglon sy’n gysylltiedig â dringo creigiau.

Fel y mae gyda phob gweithgaredd awyr agored, mae’n hollbwysig i Sealyham bod gan yr hyfforddwyr a gyflogir gymwysterau addas.

http://www.rockclimbing.org.uk/content/how-become-rock-climbing-instructor-uk

Gweithgaredd 3

Defnyddiwch y cyswllt uchod i ymchwilio i’r amrywiaeth o gymwysterau sy’n ofynnol i fod yn hyfforddwr dringo creigiau.

Gwnewch ymchwil ychwanegol i ddarganfod mwy o wybodaeth am ofynion y cymwysterau ac ystyriwch gyfrifoldebau iechyd a diogelwch hyfforddwyr dringo creigiau.

Mae Sealyham yn cynnig nifer o ddewisiadau cerdded bryniau yn y ganolfan.

Gweithgaredd 4

Gan ddefnyddio’r cyswllt isod â gwefan Cymdeithas y Crwydrwyr, crynhowch y risgiau Iechyd a Diogelwch sy’n gysylltiedig â cherdded bryniau a’r rhagofalu y dylai cerddwyr ac arweinwyr grwpiau ei wneud cyn cychwyn ar daith gerdded.

http://www.ramblers.org.uk/info/practical/safety.htm#General

Mae’r gweithgareddau hyfforddiant goroesi a gynigir yng nghanolfan Sealyham yn debyg i weithgareddau eraill a gynigir mewn canolfannau antur eraill. Yn anaml iawn, bydd damweiniau’n digwydd ac mewn amgylchiadau eithriadol gallai rhywun farw.

http://www.hse.gov.uk/schooltrips/investigation/index.htm

Gweithgaredd 5

Defnyddiwch y cyswllt uchod i grynhoi:

  1. yr amgylchiadau a achosodd farwolaeth y plentyn oedd yn y ddamwain;
  2. prif gasgliadau’r adroddiad.
1/6
1  2  3  4  5  6 
Gwefan gan Gwerin