Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

Cyflwyniad

Mae Canolfan Gweithgareddau Sealyham wedi’i lleoli yng nghanol Sir Benfro. Mae’n ganolfan gweithgareddau boblogaidd oherwydd ei lleoliad gwych yng nghefn gwlad Sir Benfro gyda mynediad hawdd i’r môr, i afonydd, i draethau hardd ac i glogwyni arfordirol. Mae’r ardal wedi cael ei disgrifio fel paradwys gweithgareddau awyr agored.

Mae gweithgareddau awyr agored cyffrous wedi cael eu trefnu yng Nghanolfan Gweithgareddau Sealyham oddi ar 1986 ac maen nhw’n cynnig profiadau bywiogol ac ysgogol i blant ac oedolion. Bydd y tîm o hyfforddwyr cymwys yn gweithio gydag unigolion neu grwpiau bach i warantu sylw personol llawn.

Mae Canolfan Gweithgareddau Sealyham yn darparu amrywiaeth o weithgareddau awyr agored ar gyfer gwahanol grwpiau o gwsmeriaid.

Gweithgaredd 1

Defnyddiwch wefan y corff i grynhoi’r prif gynhyrchion a gwasanaethau mae Sealyham yn eu darparu.

http://sealyham.com/index.htm

Gweithgaredd 2

Gan ddefnyddio’r cyswllt â gwefan y ganolfan, nodwch 5 math o ymwelwyr sy’n debygol o ddefnyddio’r ganolfan ac awgrymwch weithgareddau priodol ar gyfer pob grŵp.

Fel pob corff tebyg, mae Sealyham yn ymwneud â chynnal lefel uchel o Iechyd a Diogelwch ar gyfer ei gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae’n bwysig deall buddion ac apêl cymryd rhan mewn gweithgareddau antur a’r hyn y gall gwahanol bobl ei gyflawni drwy gwblhau tasg benodol.

Gweithgaredd 3

Trwy wneud ymchwil ychwanegol a defnyddio delweddau addas o’r banc delweddau, trafodwch yn llawn fuddion ac apêl cymryd rhan mewn gweithgareddau antur awyr agored ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl.

Mae Sealyham yn darparu pacrestr (kit list) ar gyfer grwpiau ysgol sy’n ymweld â’r ganolfan. Gellir gweld y rhestr hon yn y cyswllt isod.

http://sealyham.com/uploads/files/Kit_List_For_Activities.doc

Gweithgaredd 4 a

Eglurwch sut mae darparu pacrestr cyn ymweliad yn helpu i gefnogi Iechyd a Diogelwch ac ar yr un pryd yn cynorthwyo gwasanaeth da i gwsmeriaid.

Gweithgaredd 4 b

Awgrymwch pam, drwy ddarparu ei chyfarpar arbenigol ei hun, mae canolfan Sealyham yn cynnig gwasanaeth da i gwsmeriaid ac yn cefnogi Iechyd a Diogelwch effeithiol.

Mae canolfan Sealyham yn gwarantu profiad sy’n rhoi hwyl, ond iechyd a diogelwch ei chwsmeriaid a’i staff yw ei phrif flaenoriaeth.

Gweithgaredd 5 a

Awgrymwch dri budd i Sealyham o gael hanes (record) da o ran iechyd a diogelwch.

Gweithgaredd 5 b

Eglurwch pam y byddai hanes gwych Sealyham o ran iechyd a diogelwch yn apelio at gwsmeriaid fel ysgolion a theuluoedd.

Gweithgaredd 6 a

Mae Sealyham wedi llunio Cod Ymarfer y gellir ei weld yn y cyswllt isod.

http://sealyham.com/safety.htm

Crynhowch y Cod Ymarfer drwy ddatblygu cyflwyniad ar gyfer cwsmeriaid newydd posibl.

Gweithgaredd 6 b

Gwerthuswch effeithiolrwydd y Cod Ymarfer.

1/6
1  2  3  4  5  6 
Gwefan gan Gwerin