Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur

Mae canolfan Sealyham yn cael ei thrwyddedu gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (Adventure Activities Licensing Authority - AALA) ac mae rhaid iddi ufuddhau i’r Rheoliadau Trwyddedu Gweithgareddau Antur 2004.

“Mae Deddf Canolfannau Gweithgareddau (Diogelwch Pobl Ifanc) 1995 a’r Rheoliadau Trwyddedu Gweithgareddau Antur 2004 yn ei wneud yn ofyniad cyfreithiol bod darparwyr rhai gweithgareddau antur ar gyfer pobl ifanc yn cael arolygiad o’u systemau rheoli diogelwch ac yn dal trwydded.
Dim ond i’r rhai sy’n cynnig gweithgareddau i bobl ifanc dan 18 oed ac sy’n gweithredu’n fasnachol y mae trwyddedu’n berthnasol.
Yn gyffredinol, dim ond pan wneir y gweithgareddau hyn mewn mannau anghysbell neu unig y mae trwyddedu’n berthnasol iddynt. Er enghraifft, ar gyfer dringo ar dir naturiol mae angen trwydded, ond nid oes angen trwydded ar gyfer dringo ar wal ddringo sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol.”


Gwybodaeth am drwyddedu gweithgareddau antur:

“Nod trwyddedu gweithgareddau antur yw rhoi sicrhad i’r cyhoedd ynghylch diogelwch y darparwyr gweithgareddau hynny sydd wedi cael trwydded. Yn y modd hwn disgwylir y bydd pobl ifanc yn gallu parhau i fwynhau gweithgareddau cyffrous ac ysgogol yn yr awyr agored heb fod yn agored i risgiau osgoadwy o farwolaeth neu anaf sy’n anablu.

Mae trwydded yn dangos bod y darparwr wedi cael ei arolygu gan y Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur ar ran yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur, gyda sylw arbennig yn cael ei roi i’w systemau rheoli diogelwch gyda phobl ifanc, a’i fod wedi gallu dangos cydymffurfio â safonau arfer da sydd wedi’u cydnabod yn genedlaethol wrth gyflwyno gweithgareddau antur i bobl ifanc, gydag ystyriaeth briodol o fuddion a risgiau’r gweithgaredd.”

Fel pob canolfan gweithgareddau, arolygir Sealyham gan y Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur.

http://www.hse.gov.uk/aala/assets/documents/inspection-of-providers.pdf

Gweithgaredd 1

Defnyddiwch y cyswllt uchod i ateb y cwestiynau canlynol:

  1. Pa mor aml y caiff canolfannau gweithgareddau eu harolygu gan y Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALS)?
  2. Eglurwch 4 ffactor a allai gael eu cynnwys yn adroddiad yr arolygwr.
  3. Nodwch 3 chanlyniad posibl o arolygiad.

Bu farw pedwar person ifanc yn eu harddegau yn y trychineb canŵio yn Lyme Bay ym mis Mawrth 1993 a bydd hynny’n cael ei gofio am amser hir iawn gan lawer o bobl, nid yn unig teuluoedd a ffrindiau y bobl ifanc, ond hefyd pobl sy’n ymwneud â’r gymuned gweithgareddau awyr agored.

http://www.aals.org.uk/lymebay01.html

Gweithgaredd 2

Cliciwch ar y cyswllt uchod, darllenwch yr erthygl ac atebwch y cwestiynau canlynol:

  1. Disgrifiwch yr hyn a ddigwyddodd yn nhrychineb Lyme Bay.
  2. Awgrymwch sut y gallai’r ddamwain fod wedi cael ei hosgoi.
  3. Beth ddigwyddodd i Reolwr-Gyfarwyddwr y cwmni oedd yn gyfrifol?

Mae’r Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur yn chwarae rhan bwysig iawn mewn cynnal Iechyd a Diogelwch mewn canolfannau gweithgareddau. Gellir gweld gwybodaeth am yr awdurdod yn y cyswllt isod:

http://www.hse.gov.uk/aala/

Gweithgaredd 3

Ymchwiliwch i’r wefan a lluniwch grynodeb o weithgareddau’r AALA.

Mae deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn cael ei diweddaru yn aml yn sgil rhai digwyddiadau. Gall cyrff sy’n ymwneud â rheoli Iechyd a Diogelwch weld newid yn eu rôl o ganlyniad i bolisi’r Llywodraeth.

Mae adroddiad diweddar wedi awgrymu newid yn y trefniadau trwyddedu presennol.

Astudiwch yr adroddiad Common Sense Common Safety i weld beth allai ddigwydd i’r AALA.

Common Sense Common Safety

Gweithgaredd 4

Crynhowch y prif argymhellion a wneir gan yr adroddiad Common Sense Common Safety.

1/6
1  2  3  4  5  6 
Gwefan gan Gwerin