Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

Gweithgareddau Dŵr

Mae Sealyham yn cynnig pum gweithgaredd dŵr gwahanol:

  • Syrffio
  • Caiacio
  • Hwylio
  • Canŵio
  • Arfordiro (Coasteering)

Mae canŵio yn weithgaredd dŵr poblogaidd a diogel – os bydd yna ragofalu.

Gweithgaredd 1a

Cliciwch ar y clip fideo YouTube canlynol a nodwch 5 mesur iechyd a diogelwch:

http://www.youtube.com/watch?v=jexPM1ORnqM

Gweithgaredd 1b

Defnyddiwch y cysylltau fideo YouTube eraill i lunio crynodeb o’r hyn a all fynd o’i le ar deithiau canŵio.

Mae Sealyham yn aelod o’r corff Canŵ Cymru. Canŵ Cymru yw’r corff llywodraethol cenedlaethol ar gyfer campau padlo yng Nghymru.

Gweithgaredd 2a

Cliciwch ar y cyswllt isod i nodi 5 cyfrifoldeb Canŵ Cymru.

http://www.canoewales.com/index.aspx

Gweithgaredd 2b

Awgrymwch ddau reswm pam mae Canolfan Gweithgareddau Sealyham yn aelod o’r corff Canŵ Cymru.

Gweithgaredd 2c

Mae’n ofynnol bod gan hyfforddwyr canŵio Sealyham a’u cynorthwywyr y cymwysterau priodol. Un o’r cymwysterau hyn yw’r BCU (UKCC) Lefel 1.

  1. Talfyriad o beth yw BCU yn y Saesneg?
  2. Talfyriad o beth yw UKCC yn y Saesneg?
  3. Eglurwch bwysigrwydd cymwysterau hyfforddwyr i ganolfannau gweithgareddau fel Sealyham.

Gweithgaredd 3

Cliciwch ar y cyswllt isod a lluniwch gyflwyniad PowerPoint i ddangos yr hyfforddiant penodol sy’n gysylltiedig â chyflawni’r cymhwyster hyfforddi BCU (UKCC) Lefel 1. (Uchafswm o chwe sleid).

Defnyddiwch ddelweddau neu glipiau fideo i wella eich cyflwyniad.

http://www.canoewales.com/being-a-coach.aspx

Mae arfordiro yn weithgaredd antur cymharol newydd a ddatblygwyd fel gweithgaredd masnachol yn Sir Benfro. Mae’r disgrifiad isod yn rhoi syniad o farn un person a roddodd gynnig ar y gweithgaredd:

“Wel, nid yw’n rhywbeth i’w ofni yn sicr! Gydag Arfordiro, does dim rhaid i chi allu nofio gan y bydd y siwt wlyb a’r cymorth hynofedd yn eich cadw chi ar wyneb y dŵr pan fyddwch chi yn y dŵr, ac wrth gwrs mae’r hyfforddwyr hyfforddedig a chymwys wrth law bob amser i’ch helpu chi os byddwch chi mewn trafferth. Ar ôl cael cyfarwyddiadau diogelwch cewch eich arwain ar hyd y creigiau llithrig, gan helpu aelodau eraill eich tîm drwy gyfres o gemau tîm i’ch cadw chi’n gynnes ac i’ch cael chi’n gyfarwydd â’r amgylchedd arfordirol, ac yn y bôn i ddangos i chi bod modd cael llawer o hwyl. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys sgramblo ar y creigiau, croesi creigiau, neidio o graig i graig, nofio i mewn i ogofâu, ymdrochi, gwenu, chwerthin, a mwy o chwerthin! Does dim pwysau arnoch chi i wneud neidiau uchel nac unrhyw beth arall nad ydych yn gysurus ag ef.”

Rhan bwysig o bolisi iechyd a diogelwch Sealyham yw paratoi asesiad risg ar gyfer pob gweithgaredd. Asesiad risg ar gyfer arfordiro yn Abereiddy yw’r ddogfen ganlynol.

Asesiad Risg Arfordiro
Asesiad Risg Arfordiro

Mae’r cysylltau isod i gyd yn dangos arfordiro, gyda phobl enwog yn cymryd rhan mewn rhai.

http://video.uk.msn.com/watch/video/watch-rhod-gilbert-take-up-coasteering/2tlnn0op

http://www.youtube.com/watch?v=p3DlkKwfgag

http://vimeo.com/13388923

http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/8186896.stm

Gwyliwch y clipiau fideo i gyd, a dilynwch rai o’r cysylltau eraill os oes angen.

Gweithgaredd 4

Gan ddefnyddio tystiolaeth o’r clipiau fideo a gwybodaeth o asesiad risg Sealyham ar gyfer arfordiro:

  • Eglurwch apêl arfordiro;
  • Gwerthuswch y dulliau gweithredu a’r rheolaethau sydd wedi’u gosod er mwyn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd.

1/9
1  2  3  4  5  6  7  8  9 
Gwefan gan Gwerin